Author Archives: Andrew Collins

  1. Nid Oes Angen App – Datrysiad Digidol i Connect

    by Andrew Collins | 10th Ion 2024

    Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Connect yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

    Nid oes angen app i yrru hysbysiadau gwthio (push notifications)

    Beth yw Connect?

    Mae Connect yn cael ei gynnal gan Adoption Cymru ac yn cael ei ariannu gan y National Adoption Service. Mae’n wasanaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu.

    Maent yn cynnal cyfarfodydd grŵp bob mis gyda’r nod o wella hunanhyder y plant a’r bobl ifanc. Maent yn helpu cynyddu hunan-barch, lleihau teimladau  ynysiad, a datblygu sgiliau bywyd.

    Cyflawnir hyn wrth gynnig amrywiaeth o weithgareddau, fel celf, drama, sgiliau syrcas, bwyta/coginio iach, cerddoriaeth, ayb.

    Pa broblem oedd Connect yn wynebu?

    Cyn y sesiwn DigiCymru, dywedodd Connect mai eu her ddigidol oedd:

    “Rydym eisiau archwilio os dylem ddatblygu app at ddefnydd pobl ifanc”

    Yn y cyfarfod cychwynnol rhwng Andrew Collins, Uwch-reolwr Digidol ProMo Cymru, ac Ann a Fran o Adoption Cymru, eglurwyd pa mor heriol oedd ceisio cysylltu gyda phobl ifanc. Oherwydd natur sensitif y broses mabwysiadu, nid ydynt yn cadw data’r bobl ifanc a dim ond manylion cyswllt syml sydd ganddynt i’r rhieni.

    Mae gan Connect wefan prosiect sydd yn hysbysu cyfarfodydd grŵp ble gall pobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu gyfarfod mewn gofod diogel a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl. Ond, mae Ann a Fran yn cael trafferth rhannu’r wybodaeth yma gyda’r bobl ifanc yn uniongyrchol.

    Roeddent yn teimlo fel y byddai app newydd, gall y bobl ifanc a’u rhieni lawr lwytho, yn caniatáu iddynt yrru negeseuon gwthio, heb angen unrhyw wybodaeth bersonol.

    Roeddent yn poeni y byddai creu hyn yn waith mawr. Byddai’n rhaid iddynt ddiweddaru’r wefan a’r ap, gan greu mwy o waith a chostau yn yr hirdymor.

    Darganfod datrysiad digidol

    Mae datblygu app yn gallu bod yn broses hir a drud. Edrychom ar adnoddau fydda’n caniatáu i chi yrru negeseuon gwthio fel y gallech gyda app, heb orfod datblygu rhywbeth newydd.

    Mae AppyPie yn caniatáu i chi droi eich gwefan presennol i app. Gellir ei lawr lwytho o’r Apple App Store a Google Play Store.

    Mae AppyPie hefyd yn:

    – Caniatáu i staff yrru negeseuon gwthio i ddefnyddwyr eu gwasanaeth
    – Ddatrysiad dim cod gyda rhwystrau mynediad isel
    – Tynnu cynnwys o’ch gwefan, fel nad oes angen diweddaru’r wefan a’r app
    – Costio dim ond £10 y mis felly’n ddatrysiad fforddiadwy iawn ac yn llawer rhatach nag datblygu app o’r newydd.

    Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sesiwn un i un DigiCyru am ddim ar gyfer eich sefydliad trydydd sector, gwnewch apwyntiad gydag un o’n harbenigwyr digidol yma i ddarganfod datrysiad digidol i chi.

    Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  2. Cefnogi Y Fenter i Ddigideiddio’u Proses Gweinyddol

    by Andrew Collins | 13th Rhag 2023

    Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Y Fenter yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

    The Venture logo - cartoon of an adult man and child holding hands coming out of the gate of a playground

    Beth yw Y Fenter?

    Yn 1978 helpodd pobl ifanc lleol adeiladu Y Fenter, maes chwarae antur ar domen sbwriel hanner-swyddogol. Mae wedi tyfu dros y blynyddoedd i fod yn un o’r sefydliadau lleol arweiniol i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn y DU.

    Mae Y Fenter wedi’i sefydlu ym Mharc Caia, Wrecsam, un o’r ystadau tai cyngor mwyaf yng Nghymru, sydd â’r lefel uchaf o dlodi plant yng Nghymru yn ôl yr Ymgyrch Dileu Tlodi Plant.

    Pa broblem oedd Y Fenter yn wynebu?

    Mae Y Fenter yn ardal chwarae agored, ble mae pobl ifanc yn mynd a dod fel y dymunant ar ôl ysgol ac ar y penwythnosau. Mae sawl staff yn goruchwylio’r ardal chwarae, ac yn cofrestru pobl ifanc wrth iddynt gyrraedd, ac yn eu harwyddo allan wrth iddynt adael.

    Ar hyn o bryd mae’r broses yma yn digwydd ar bapur. Mae hyn yn creu problemau sylweddol i’r sefydliad, yn enwedig pan ddaw at adroddiadau, cynnal cronfa ddata defnyddwyr a chadw trac o’u data.

    Image copyright: TheVenture.wales

An image of two large wooden towers with walkways between at The Venture adventure playground in Wrexham

    Adroddiadau

    Ar ddiwedd pob bloc adrodd, roedd rhaid i un aelod staff fynd â’r holl waith papur cofrestru dros y 6 mis diwethaf adref. Roedd rhaid adio tua 150 o gofrestrau a theipio bob un i’r daenlen. Roedd hwn yn broses llafurus iawn, ond roedd perygl ran diogelwch data hefyd a’r posibilrwydd o golli neu dorri’r cofrestrau a cholli’r data.

    Cronfa ddata defnyddwyr

    Yn ogystal â’r cofrestrau papur, yn monitro presenoldeb dyddiol, roedd ffurflen gofrestru un tro gwahanol yn cael ei lenwi pan roedd person ifanc newydd yn mynychu. Roedd hwn yn nodi’r holl wybodaeth bwysig am y person ifanc, fel alergeddau, anghenion ychwanegol, manylion cyswllt mewn argyfwng, ayb. Roedd y ffurflenni yma yn cael eu cadw mewn cwpwrdd dan glo y tu mewn i’r adeilad ac felly, mewn argyfwng, roedd rhaid i aelod o’r staff adael y maes chwarae, mynd i’r swyddfa, dod o hyd i’r allwedd, a chwilio trwy’r holl ffurflenni aelodaeth i geisio darganfod y manylion cyswllt.

    Diffyg data

    Gan fod y cofnodion yma i gyd yn cael eu cadw ar bapur, nid oedd cysylltiad rhyngddynt, ac felly roedd yn anodd iawn i ganfod data am rywun oedd yn mynychu’r maes chwarae. er esiampl, nid oedd yn hawdd darganfod o ble roedd y mwyafrif o’r defnyddwyr yn dod, eu hoedran na pwy oedd yn mynychu’n aml, neu’n anaml, ayb. Felly roedd yn anodd iawn i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata sydd ar gael yn hawdd iddynt.

    Roedd Y Fenter yn awyddus i wybod os oedd yna adnoddau digidol ar gael bydda’n gallu gwella’r broses yma.

    Screen grab from the Plinth resource showing how to add members details to the platform

    Darganfod datrysiad digidol

    Cafodd Y Fenter gyfarfod gydag Andrew Collins, Uwch Reolwr Digidol ProMo Cymru, i drafod pa adnoddau digidol fydda’n gallu cynnig datrysiad.

    Mae Plinth, cynt TimeToSpare, yn Llwyfan Effaith Cymunedol sydd yn cysylltu’r data gan wahanol sefydliadau i helpu rhaglenni cymunedol i gyflawni a deall effaith.

    Mae Plinth yn gweithio fel cofrestr ddigidol, yn caniatáu i chi greu cronfa data o holl ddefnyddwyr eich gwasanaeth, gan gynnwys manylion personol fel alergeddau, cyfeiriadau a rhifau cyswllt mewn argyfwng.

    Ar ôl i chi drefnu popeth, mae posib cofrestru defnyddwyr i mewn ac allan o’r lleoliad yn sydyn ac yn hawdd, gyda Plinth yn cadw cofnod presenoldeb.

    Screen grab from the Plinth resource showing how to get a table of demographics and attendances for reports

    Gallech chi hefyd greu adroddiadau mewn ychydig eiliadau, gan roi mewnwelediadau gwell i’ch defnyddwyr. Gellir defnyddio hyn i ddarganfod yr ardaloedd mae’r mwyafrif yn byw, amser prysuraf y dydd, neu rif cyfartalog eich defnyddwyr dyddiol.

    Mae’r adnoddau yma yn golygu bod adrodd yn ôl i gyllidwyr yn haws, yn rhoi mwy o fewnwelediad i faint o bobl sydd wedi’u cefnogi, sydd yn helpu chi i ddangos yr effaith mae’r gwasanaeth yn ei gael.

    Gan fod posib defnyddio Plinth ar ffôn clyfar neu dabled, mae’r holl wybodaeth sydd ei angen ar staff ar gael iddynt yn hawdd, sydd yn golygu gellir darganfod manylion defnyddiwr yn sydyn, fel alergeddau neu wybodaeth gyswllt mewn argyfwng, heb orfod mynd i’r swyddfa.

    Mae Plinth ar gael am ddim i sefydliadau cymunedol, felly mae’n ddewis gwych i sefydliadau trydydd sector.

    Screen grab from the Plinth resource showing active users by borough for reporting purposers

    Canlyniadau

    Ar ôl tri sesiwn yn cyfarfod gyda ni fel rhan o’r gwasanaeth rhad ac am ddim DigiCymru. Mae Y Fenter wedi dechrau treialu Plinth gyda’r staff i weld os yw’n gallu gweithio yn lle’r system bapur presennol.

    Fel sydd yn wir gydag unrhyw adnodd newydd, mae yna gyfnod o newid ble mae gofyn ar staff i ddysgu sgiliau newydd a gwneud pethau’n wahanol. Mae newid sefydliadol yn gallu bod yn anodd, ond os yw’r adnodd yn un hawdd i’w defnyddio ac yn datrys problemau, mae’n gallu gwneud y broses o newid yn un llyfnach i’r staff.


    Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector written in capitals in white on a background of orange, pink and purple circles blended together

    Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  3. [Wedi cau] Swyddog Cyllid a Datblygu

    by Andrew Collins | 8th Tach 2023

    Cyfle cyffrous i ymuno â’r tîm ProMo-Cymru fel Swyddog Cyllid a Datblygu. 

    Swyddog Cyllid a Datblygu
    Llawn amser (35 awr yr wythnos)
    Opsiwn gweithio’n rhan amser/rhannu swydd
    Cyflog £24,410 – £29,250

    Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)


    Gwybodaeth am ProMo-Cymru

    Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen fasnachu. Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn ymgysylltu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed.  

    Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.  

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 25 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau.  

    Yn y 30 mlynedd diwethaf mae ProMo-Cymru wedi gweld llawer o arloesedd a thyfiant. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond rydym hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.   

     Mae gennym gydbwysedd o waith tîm, ymreolaeth a theimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed i’n cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrau gyda nhw. Anogir i’n staff i fod yn rhan o’r arweinyddiaeth a’r broses o wneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo gwerth unigryw.    

    Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym angen pobl sydd yn rhagweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo mai chi yw hyn, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!  

    Gwybodaeth am y swydd 

    Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid a Datblygu sydd â dawn ysgrifennu ac angerdd dros wneud gwahaniaeth go iawn. Yn y swydd hon, byddwch yn cefnogi ac yn cael eich cefnogi i gynyddu incwm ProMo wrth dyfu eich sgiliau i ddatblygu naratifau difyr yn seiliedig ar anghenion y cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw ac i helpu ein cleientiaid i wireddu eu huchelgeisiau.    

    Byddwch yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu i gynhyrchu incwm yn ProMo drwy ddod o hyd i gyllid, ei gydlynu a’i sicrhau drwy gymysgedd o grantiau, ymddiriedolaethau, sefydliadau a gweithgarwch masnachu.  

    Mae angen rhywun sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm i greu prosiectau arloesol a chynigion grymus ar draws meysydd gwaith ieuenctid, datblygu cymunedol, digidol a dylunio. Bydd ein staff yn rhannu eu profiad ac, yn eich tro, byddwch chithau’n helpu i droi’r gwaith rydym yn ei gyflawni yn ffrydiau incwm amrywiol a chynaliadwy.   

    Rydym yn pwysleisio dull cydweithredol o ddatblygu busnes a chyllid, byddwch yn gweithio ar draws tîm staff o 50 yn darparu dwsinau o brosiectau cyffrous a byddwch yn cael eich cefnogi gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn eich datblygiad proffesiynol eich hun. 

    I gael rhagor o wybodaeth am bwy ydyn ni a’n prosiectau, ewch i: ProMo Cymru: www.promo.cymru

    Lawrlwythwch y pecyn cais

    Dyddiad Cau:

    Dydd Sul 3 Rhagfyr  

    Dyddiadau Cyfweliadau:

    11 a 12 Rhagfyr, mewn person, Swyddfa Caerdydd. 

    Am wybodaeth bellach, cysylltwch â people@promo.cymru  

    (029) 2046 2222 

    ProMo-Cymru 
    17 Stryd Gorllewin Bute  
    Bae Caerdydd
    CF10 5EP  

    www.promo.cymru

  4. [Wedi cau] Swyddog Prosiectau Digidol 

    by Andrew Collins | 8th Tach 2023

    Cyfle cyffrous i ymuno â’r tîm ProMo-Cymru fel Swyddog Prosiectau Digidol. 

    Swyddog Prosiectau Digidol
    35 awr yr wythnos
    Cyflog £24,410 – £29,250
    Cytundeb parhaol (yn amodol ar gyllid)  


    Gwybodaeth am ProMo-Cymru 

    Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen fasnachu. Rydym ni’n gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn ymgysylltu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed. 

    Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell. 

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 20 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau. 

    Yn y 30 mlynedd diwethaf mae ProMo-Cymru wedi gweld llawer o arloesedd a thyfiant. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond rydym hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.  

     Mae gennym gydbwysedd o waith tîm, ymreolaeth a theimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed i’n cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrau gyda nhw. Anogir i’n staff i fod yn rhan o’r arweinyddiaeth a’r broses o wneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo gwerth unigryw.   

    Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio i’r gwerthoedd yma. Rydym angen pobl sydd yn rhagweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo mai chi yw hyn, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!  

    Gwybodaeth am y swydd 

    Mae ein tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn chwilio am Swyddog Prosiectau Digidol creadigol, trefnus ac sy’n gallu cymell ei hun, sy’n hoffi technoleg ac sydd â’r profiad a’r hyder i redeg nifer o brosiectau digidol ar yr un pryd mewn amgylchedd prysur. 

    Mae ein prosiectau’n canolbwyntio ar gefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i greu gwell gwasanaethau a galluogi llais ieuenctid a chymunedau drwy greadigrwydd a digidol. Rydym ni’n credu y dylai pobl ifanc a chymunedau gael mynediad at wybodaeth, eiriolaeth a chefnogaeth mewn ffordd sy’n hawdd dod o hyd iddi, yn syml i’w deall mewn fformat y gallan nhw ei ddefnyddio. 

    Mae ein gwasanaethau masnachu yn canolbwyntio ar drawsnewid digidol drwy’r canlynol: Cynllunio Gwasanaeth, Cyfryngau Digidol sy’n cael eu Cyd-gynllunio, Gwybodaeth Ieuenctid Digidol, Hyfforddiant ac Ymgynghori. Hoffem glywed gan ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu a chynllunio rhagorol ynghyd â phrofiad o gyflawni prosiectau digidol. 

    Gwybodaeth Amdanoch Chi 

    Rydym ni’n chwilio am rywun sy’n cymryd yr awenau ac sy’n ffynnu ar yr her o weithredu a datblygu nifer o brosiectau ar yr un pryd. Bydd yr ymgeisydd yn frwd dros ddefnyddio technoleg ddigidol i ymgysylltu â phobl ifanc neu gymunedau, ac yn gyfarwydd â’r datblygiadau technolegol diweddaraf. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o weithio yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, a hyfforddi a chefnogi elusennau ym maes technoleg neu ddigidol.  

    Rydym ni’n gwerthfawrogi unigolion hyblyg sy’n awyddus i ddatblygu eu hunain, prosiectau a ProMo-Cymru. Byddwn ni’n annog ac yn disgwyl i bobl ddatblygu sgiliau newydd a chymryd cyfrifoldebau newydd.  

    Rydym ni’n chwilio am y bobl iawn sy’n rhannu ac yn gweithio tuag at werthoedd ac ethos ProMo-Cymru. Rydym ni’n croesawu pobl o bob cefndir gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn helpu i annog arloesedd a pherfformiad sefydliadol. 

    I gael rhagor o wybodaeth am bwy ydyn ni a’n prosiectau, ewch i: ProMo Cymru: www.promo.cymru 

    Lawr lwythwch y pecyn cais yma

    Dyddiad Cau:  

    Dydd Sul 3 Rhagfyr  

    Dyddiadau Cyfweliadau:  

    13 a 14 Rhagfyr, mewn person, Swyddfa Caerdydd. 

    Am wybodaeth bellach, cysylltwch â people@promo.cymru  

    (029) 2046 2222 

    ProMo-Cymru 
    17 Stryd Gorllewin Bute  
    Bae Caerdydd
    CF10 5EP  

    www.promo.cymru

  5. [Wedi cau] Swydd Cydlynydd Gwirfoddoli

    by Andrew Collins | 6th Hyd 2023

    Mae cyfle newydd a chyffroes wedi codi yn ProMo-Cymru Cyf am Gydlynydd Gwirfoddoli i ymuno â’n tîm brwdfrydig yn Institiwt Glynebwy. Bydd y person llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygiad a chydlyniad holl weithgareddau gwirfoddoli, gan sicrhau profiad gwirfoddoli gwobrwyol a phositif yn EVI. 

    Cytundeb: Cytundeb 12 mis i gychwyn (parhad yn ddibynnol ar gyllid) 

    Lleoliad: Institiwt Glynebwy 

    Cyflog: £24,410 – £28,627 

    Cyflog Cychwyn:  £24,410 

    Oriau: 35 awr yr wythnos 

    Swydd Ddisgrifiad 

    Rydym yn awyddus i recriwtio Cydlynydd Gwirfoddoli brwdfrydig a threfnus i gefnogi a mentora ein tîm o wirfoddolwyr cynyddol ar eu siwrne gwirfoddoli yn EVI. Bydd y swydd yn cynnwys: 

    1. Cysylltu gyda’r gymuned leol i recriwtio gwirfoddolwyr newydd 

    2. Cwblhau ffurflenni cofrestru a chytundebau gwirfoddolwyr 

    3. Mentora gwirfoddolwyr a sicrhau bod ein cynllun dysgu unigol i wirfoddolwyr, Fy Siwrne EVI, yn cael ei lenwi 

    4. Anwytho gwirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch 

    5. Gweithio gyda Chredydau Amser Tempo, Elite Clothing, Cymunedau Dros Waith a Mwy, a sefydliadau cymunedol eraill i hyrwyddo a chefnogi cyfleoedd gwirfoddoli yn EVI 

    6. Cefnogi cyfleoedd gwirfoddoli sy’n bodoli yn EVI a chreu a datblygu cyfleoedd ychwanegol 

    7. Gweithio’n agos gyda’r tîm EVI i gefnogi cymuned Glynebwy a Blaenau Gwent wrth ddatblygu gwasanaethau a gweithgareddau 

    8. Cefnogi arolygu ac adrodd i ‘Pobl a Sgiliau’ Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 

    Dyddiad cau: 27ain Hydref 2023 

    Dyddiad cyfweld: w/c 6ed Tachwedd 2023 

    Cyswllt:  info@promo.cymru 

  6. [Wedi cau] Cyfleoedd Swydd: Swyddi Llinell Gymorth

    by Andrew Collins | 4th Rhag 2023

    Mae gan ProMo-Cymru ddwy swydd agored i ymuno â’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol, yn gweithio ar draws sawl llinell gymorth!

    Wedi ei adnewyddu am 4 mlynedd arall yn 2022, mae’r gwasanaeth arobryn Meic Cymru yn ehangu ac yn datblygu. Wrth weithio fel rhan o’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinellau cymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesioynol wedi’i seilio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.


    Rheolwr Gweithrediadau Llinellau Cymorth

    £31,301 – £36,680

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr

    Dyddiadau Cyfweliadau: 25 Ionawr 2024

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru


    Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth

    £24,410-£28,627

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr

    Dyddiadau Cyfweliadau: 24 Ionawr 2024

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru


    Mae’r ddwy swydd wedi’u lleoli yn y swyddfa ac/neu gartref.

    Byddech yn:

    – mwynhau gwaith ysgogol, heriol, a gwobrwyol
    – creu cysylltiad cadarnhaol gydag amrywiaeth eang o bobl
    – gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gyda’r bobl sydd yn cysylltu
    – cael dylanwad cadarnhaol ar y tîm
    – gweithio sifftiau gan gynnwys penwythnosau a gyda’r nos (Eiriolwyr Gynghorwyr yn unig)

    Yn ddelfrydol byddech yn gallu:

    – cyfathrebu yng Nghymraeg neu fod yn barod i ddysgu

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Gwener 29fed Rhagfyr

    Bydd angen archwiliad DBS uwch.

    Cysylltwch â info@promo.cymru am wybodaeth

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.

    Mae ProMo-Cymru Cyf yn Elusen Gofrestredig Rhif: 1094652 Cwmni Cyfyngedig Rhif: 1816889

  7. [Wedi cau] Cyfleoedd Swydd: Swyddog Datblygu Cyllid

    by Andrew Collins | 1st Awst 2023

    Cyfle cyffrous i ymuno â thîm ProMo-Cymru fel Swyddog Datblygu Cyllid, yn cefnogi ac yn gwella ein swyddogaethau cyllid canolog a chefn swyddfa.

    Amdanom Ni:

    Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig gyda changen masnachu. Fel sefydliad, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, eu hymgysylltu, eu cysylltu â’u clywed.

    Dysgwch fwy am ProMo-Cymru ar www.promo.cymru

    Y Swydd:

    Yn adrodd i’n Rheolwr Cyllid, byddwch yn ein cynorthwyo i gynnal a gwella ein swyddogaethau cyllid. Rydym yn chwilio am rywun sydd ag egni, syniadau, ac agwedd bositif, gallu-gwneud. Byddwch yn ymuno ac yn cyfrannu at dîm blaengar o bobl a sefydliad sydd yn ceisio gwella bywydau unigolion a chymunedau.

    Gwybodaeth Ychwanegol

    – Cyflog cychwynnol – £24,410 yn gweithio 35 awr yr wythnos

    – Gwyliau – 23 diwrnod yn ogystal â gwyliau cyhoeddus

    – Lwfans ffôn symudol

    – Oriau a threfniadau gweithio hyblyg

    – Gweithio hybrid

    Sut i Wneud Cais

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Dyddiad cau – 11eg Awst am 5yh

    Cyfweliadau – wythnos yn cychwyn 21ain Awst

  8. [Wedi cau] Cyfleoedd Swydd: Rolau Llinell Gymorth

    by Andrew Collins | 19th Hyd 2022

    Mae gan ProMo-Cymru dri chyfle swydd i ymuno â’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol, gan weithio ar draws llinellau cymorth lluosog.

    Wedi ei adnewyddu am 4 mlynedd arall, mae’r gwasanaeth arobryn Meic Cymru yn ehangu ac yn datblygu. Wrth weithio fel rhan o’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinellau cymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesioynol wedi’i seilio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.

    Rheolwr Llinellau Cymorth

    £31,301 – £35,799

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Llun 7fed Tachwedd 2022

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Eiriolwyr Gynghorwyr Llinellau Cymorth

    £23,471 – £27,526

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Llun 7fed Tachwedd 2022

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Swyddog Cefnogi Llinellau Cymorth

    £18,411 – £22,2769

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Llun 7fed Tachwedd 2022

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Swyddfa a / neu gartref

    Byddech yn:

    – mwynhau gwaith ysgogol, heriol, a gwobrwyol
    – creu cysylltiad cadarnhaol gydag amrywiaeth eang o bobl
    – gwneud gwahaniaeth cadarnhaol gyda’r bobl sydd yn cysylltu
    – cael dylanwad cadarnhaol ar y tîm
    – gweithio sifftiau gan gynnwys penwythnosau a gyda’r nos (Eiriolwyr Gynghorwyr yn unig)

    Yn ddelfrydol byddech yn gallu:

    – cyfathrebu yng Nghymraeg neu fod yn barod i ddysgu

    Dyddiad Cau: 5yh, Dydd Llun 7fed Tachwedd 2022

    Dyddiadau Cyfweliad: 22ain, 23ain, 24ain Tachwedd 2022 (wyneb i wyneb / ar-lein i’w gadarnhau)

    Bydd angen archwiliad DBS uwch.

    Cysylltwch â info@promo.cymru am wybodaeth

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru

    Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal.

    Mae ProMo-Cymru Cyf yn Elusen Gofrestredig Rhif: 1094652 Cwmni Cyfyngedig Rhif: 1816889

  9. [Wedi cau] Cyfleoedd Swydd: Staff Llinell Gymorth Sesiynol

    by Andrew Collins | 24th Meh 2022

    Mae staff llinell gymorth sesiynol yno wrth gefn i wasanaethu ein llinellau cymorth ar draws ProMo-Cymru. Y brif linell gymorth yw Meic (i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed; ar y ffôn, neges testun a sgwrsio ar-lein; yn agored 365 diwrnod y flwyddyn, 8yb tan hanner nos). Mae’r llinellau cymorth eraill yn canolbwyntio ar oedolion.

    Byddwch yn darparu gwasanaethau llinell gymorth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, yn cynnig gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth sydd yn seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.

    Mae gwaith sesiynol yn amrywio, o 2 awr hyd at 8 awr (sifft lawn gydag awr o egwyl ddi-dâl) dros ddyddiau, nosweithiau a phenwythnosau, gyda thâl o £1 yr awr. Gellir trafod yr oriau yn amodol ar yr angen a disgwyliadau ProMo-Cymru a’r gweithwyr sesiynol unigol.

    Mae sifftiau sesiynol yn cael eu gweithio o adref. Mae angen gofod gwaith distaw, mynediad i gyfrifiadur a’r Rhyngrwyd. Bydd angen i chi fedru mynychu’r swyddfa yng Nghaerdydd ar adegau. Bydd angen i chi gael y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol sydd yn hanfodol i’r swydd, ac i fod yn ddibynadwy.

    Os oes gennych chi ddiddordeb:

    – darllenwch gopi o’r Swydd Ddisgrifiad a’r ddogfen Cyd-ddisgwyliadau

    – cwblhau a chyflwyno CV cyfoes, datganiad personol byr (hyd at 500 gair), manylion cyswllt, a’i ddychwelyd i Pat Green: pat@promo.cymru

    Rydym yn recriwtio hyd at 2 gwaith y flwyddyn, felly ni fyddem yn cysylltu nes ein bod wrthi’n recriwtio.

    Wrth anfon eich gwybodaeth bersonol atom rydych chi’n caniatáu i ProMo- Cymru gadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben bwriedir; ni fydd yn cael ei rannu / datgelu i unrhyw un arall. Os yw eich amgylchiadau yn newid ac nid ydych ar gael mwyach, rhowch wybod i ni fel y gallwn dynnu eich manylion o’n cofnodion.

    Am unrhyw ymholiadau cysylltwch â Pat Green: pat@promo.cymru

  10. [Wedi cau] Cyfleoedd Swydd: Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth

    by Andrew Collins | 24th Meh 2022

    Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth (llawn amser/rhan amser)
    Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
    Cyflog: £23,471

    Wedi ei adnewyddu am dymor 4 mlynedd arall, mae’r gwasanaeth arobryn Meic yn ehangu ac yn datblygu. Wrth weithio yn y Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn cyflwyno gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth sydd wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y bobl, i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

    Byddech yn gallu:

    – creu cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl

    – creu gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu â chi

    – bod yn ddylanwad positif ar y tîm

    – gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau

    Yn ddelfrydol byddech yn gallu:

    – cyfathrebu yn y Gymraeg neu’n fodlon dysgu

    Dyddiad Cau: 9yb, Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2022

    Dyddiadau Cyfweld (Zoom): 26, 27, 28 Gorffennaf 2022

    Bydd angen gwiriad DBS uwch.

    Gellir lawr lwytho pecynnau cais isod:

    Disgrifiad Swydd

    Ffurflen Gais

    Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: info@promo.cymru

    Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal

    Mae ProMo-Cymru Cyf yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1094652 Rhif Cwmni Cyfyngedig: 1816889