Astudiaeth Achos – Pili-pala

by Tania Russell-Owen | 13th Rhag 2019

Mae mynd at waith yn greadigol, yn agored ac yn gyson yn hollbwysig i ProMo-Cymru. Mae’r rhinweddau hyn yn allweddol i sicrhau ein bod yn darparu gwaith yn well a chyfathrebu’n fwy ystyrlon.

Er y gall hyn fod yn anodd ei feintioli, rydym yn falch o gyflawni prosiectau sy’n arddangos ehangder yr iaith a’r diwylliant yr ydym yn eu mwynhau yng Nghymru

Creu Pili-pala

Yn 2018, cynhyrchwyd Pili-pala: fideo y gellir ei rannu a oedd yn sail i ymgyrch ledled y wlad ar gyfer y llinell gymorth Meic.

Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n darparu cefnogaeth i rai dan 25 oed ar bynciau eang, gan gynnwys bwlio, hawliau plant ac iechyd rhywiol.

Ysgrifennodd a recordiodd y bardd gair llafar ifanc, Sarah McCreadie, y naratif Saesneg, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach.

Nid yw’n bosib cyfieithu barddoniaeth gair am air. Cyfrifoldeb ein Swyddog Iaith Gymraeg oedd sicrhau bod neges y gerdd, y rhythm a’r teimlad ar gael yn y cyfieithiad. Yna buom yn gweithio gyda pherfformiwr ifanc o Gymru, Mari, i loywi’r darn.

Llais dilys

Mae’r prosiect yn crynhoi ein hagwedd tuag at weithio o safbwynt dwyieithrwydd yn gyntaf. Yn yr achos hwn, datblygwyd y darn Cymraeg yn organig o lais Mari ei hun.

“Fel rhywun sydd wedi mynychu ysgol iaith Gymraeg, mae’n hyfryd gweld adnoddau gan bobl ifanc, i bobl ifanc, yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog. Pan ddarllenais y gerdd am y tro cyntaf, diflannodd fy mhryder nad fyddwn yn gallu perthnasu ag ef,” disgrifiodd Mari.

“Ar ôl trafod gyda Sarah am y ffordd roeddwn i wedi dehongli’r cyfieithiad teimlais yn hyderus iawn. Er bod gen i berthynas fy hun gyda’r gerdd, roedd y neges a’r teimlad craidd yn disgleirio drwodd hyd yn oed mewn iaith wahanol.”

Nid fideo Saesneg gyda chyfieithiad Cymraeg safonol oed hwn yn unig. Gyda’n help ni, darparodd Mari lais amhrisiadwy, dilys a oedd yn adlewyrchu diwylliant a safbwyntiau siaradwyr uniaith Saesneg. Deillia’r budd hwn wrth ail-siapio cynnwys dwyieithog fel hyn gan weithio gyda phobl ifanc i roi siâp ac enaid i’n negeseuon.

Fel sefydliad, mae’n hynod bwysig bod ein hymrwymiad i’r iaith yn fwy na chyfieithu; mae darpariaeth ddwyieithog yng nghalon popeth a wnawn o’r cychwyn cyntaf, ac mae hyn yn gwneud byd o wahaniaeth.

I ni, mae’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng symud ymlaen a sefyll yn yr unfan.

Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol wedi ein caniatáu ni i ddatblygu ein sgiliau ymhellach ym maes cyfathrebu ac ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gronfa’n cefnogi busnesau lleol yng Nghymru i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. Gweinyddir gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, WCVA.

Mae’r gyllideb yma yn sicrhau bod ProMo-Cymru yn parhau i ddarparu prosiectau sy’n cyfarparu pobl ifanc a chymunedau i fod yn wybodus, wedi cysylltu ag i gael eu clywed.