by Tania Russell-Owen | 3rd Medi 2012

Wedi’i sefydlu ers 30 mlynedd, mae ProMo-Cymru wedi datblygu enw da fel darparwr atebion arloesol i, a gyda, phobl ifanc a chymunedau yng Nghymru.

Mae ProMo-Cymru eisiau recriwtio aelodau newydd ymroddedig ac angerddol ar ei fwrdd Ymddiriedolwyr i gyfrannu a chefnogi ei ddatblygiad.

Mae’r bwrdd yn cyfarfod pum gwaith y flwyddyn ac yn cynnig cefnogaeth ar adegau eraill weithiau.

Mae ymddiriedolwyr yn wirfoddolwyr, er bod costau teithio a chostau fel arall yn cael ei dalu.

Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig ac mae ganddo is-gwmni masnachol sydd yn eu perchnogaeth yn llwyr, ProMo-Cymru Masnachol Cyf.

Ar hyn o bryd mae ProMo-Cymru yn darparu:

PwyntTeulu – Gwasanaeth Lleisiau Teulu ac Eiriolaeth Llinell Gymorth Genedlaethol i deuluoedd yng Nghymru. Roedd hwn yn defnyddio’r model cyfathrebu integredig sydd wedi cael ei ddatblygu gan ProMo-Cymru sydd yn darparu sawl ffordd i deuluoedd gael gwybodaeth a darparu cefnogaeth i deuluoedd yng Nghymru.

Institiwt Glyn Ebwy (EVi) – Mae ProMo-Cymru wedi atgyfodi’r EVi o ddiffeithdra ac wedi creu canolfan diwylliannol i’r bobl yng nghalon Glyn Ebwy. Mae perchnogaeth yr EVi wedi cael ei drosglwyddo i ProMo-Cymru yn dilyn cais trosglwyddo asedau cymunedol llwyddiannus i’r Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru.

Meic – Mae ProMo-Cymru yn gyfrifol am y llinell gymorth i blant a phobl ifanc Cymru.

Mae ProMo-Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogol ac ymgynghorol.

Os oes gennych chi ddiddordeb ac eisiau gwybodaeth bellach am ddod yn aelod y bwrdd, cysylltwch â Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr, ProMo-Cymru, ar 07970 662341 neu e-bost marco@promo.cymru