4 Menter Gymdeithasol Benigamp

by Dayana Del Puerto | 6th Maw 2017

Fel menter gymdeithasol, mae gennym ddiddordeb mawr yn dysgu sut gallem wneud da mewn ffordd foesegol a chynaliadwy. Mae’r bwlch rhwng cwmnïau dielw a’r cwmnïau sydd yn gwneud elw sydd â chydwybod gymdeithasol yn lleihau o ddydd i ddydd. Dyma 4 o gwmnïau ac elusennau sydd â neges a phwrpas clir, ac yn gwneud pethau diddorol gyda syniadau hen a newydd – wedi’u dewis gan ein Swyddog Datblygu Prosiect, Nathan Williams:

Patagonia

Mae Patagonia ar ei blaen wrth ystyried busnes moesol. Dechreuodd y cwmni trwy gynhyrchu dillad a chyfarpar dringo, ond nawr yn gwerthu amrywiad o ddillad chwaraeon a technegol foesol. Mae ganddynt tri nod:

–> Cynhyrchu’r cynnyrch gorau

–> Peidio niweidio’n ddiangen

–> Defnyddio busnes i ysbrydioli ac i gweithredu datrysiadau i’r argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol  

Mae egluder rhain yn bwysig i sawl cwmni sy’n ceisio cyfathrebu eu neges â’r cyhoedd.

http://www.youtube.com/watch?v=LpusfqnIyr0&list=PL547EC64AE6450D99

Cryfder Patagonia yw’r ffordd maent yn gweithredu’r rhain trwy ei gweithgareddau, gwasanaethau a chynlluniau cyflog gweithwyr. Er enghraifft, bu Patagonia yn penderfynu rhedeg ymgyrch gwrth-Ddydd Gwener Ddu, o’r enw “Paid prynu’r siaced yma”. Tra bod eraill yn hysbysebu eu cynhyrchion yn arw yn ystod y cyfnod, llwyddodd Patagonia i godi ymwybyddiaeth o’r brand trwy ofyn i bobl ystyried gor-brynu cynnyrch ac i beidio gwario arian ar ei nwyddau ar y diwrnod hwnnw.

Ymwelwch â’i gwefan i weld ei gwaith a sut maen nhw’n gweithio.

riversimple  

Mae riversimple yn fusnes Cymreig, a’u nod yw “i ddileu, yn systematig effaith amgylcheddol cludiant personol ‘.

Mae riversimple yn gwerthu ac yn hybu car sy’n cael ei phweru gan hydrogen, sy’n cwrdd â’u prif nod uchod. Beth sy’n gwahanu’i gar o’r lleill yw ei benderfyniad i ddechrau trwy ddylunio’r gell tanwydd yn hytrach na’r injan, ac yna adeiladu’r car o’i gwmpas.

Gelwir y tanwydd yn “Rasa”, sydd yn deillio i’r ymadrodd Lladin, Tabula Rasa (sef llechen lan).

Mae’r cwmni yn gosod esiampl wych yn nhermau gwneud rhywbeth mewn modd eich hun, yn lle copïo rhywun arall.

I ddysgu mwy am riversimple, ewch i’w gwefan:  http://www.riversimple.com/   

Lemonade  

Mae Lemonade yn ceisio newid y ffordd mae’r diwydiant yswiriant yn gweithio trwy ddefnyddio gwybodaeth artiffisial (AI) i dalu iawndaliadau a rhoi’r gweddill i achosion dielw. Maent yn cynnig neges atyniadol i’w gynulleidfa ac yn barod wedi torri record trwy dalu iawndal o fewn 3 eiliad.

Mae ei defnydd o wybodaeth artiffisial wedi sicrhau bod ei gostau rhedeg yn is nag arfer.

Tra bod hyn yn codi cwestiynau ynglŷn ag awtomasiwn yn cymryd lle swyddi, mae’n gwmni defnyddiol i wylio ac un sydd (efallai) yn cynnig model newydd o brynu yswiriant . Dydy’r cwmni ddim yn masnachu yn y DU, ond am ragor o wybodaeth amdanynt, ewch i’r gwefan.

Charity: Water  

Mae gan Charity:Water neges hynod o syml: “Mae Charity:Water yn sefydliad dielw sy’n cynnig dŵr diogel a glan i bobl mewn gwledydd datblygiadol”.

Mae’r elusen ond wedi bodoli am ychydig o flynyddoedd, ond wedi tyfu’n syfrdanol ac wedi codi nifer fawr iawn o arian am brosiectau dŵr . Mewn cyfnod lle mae’r cyhoedd yn ymddiried yn llai mewn elusennau, mae’r sefydliad wedi atynnu cefnogaeth gref gan y cyhoedd trwy ei amcanion a phwrpas clir. Os ydych chi’n gweithio i elusen neu’n edrych ar sut orau i gyfathrebu’ch neges, cymerwch olwg ar ei wefan.

http://www.youtube.com/watch?v=UE9UvT5ujyg