by Tania Russell-Owen | 13th Hyd 2016
Gall cefnogaeth gyfoed i gyfoed, sef defnyddwyr gwasanaeth yn helpu defnyddwyr eraill y gwasanaeth gyda chyngor, profiadau ac awgrymiadau, fod yn rymusol iawn.
Mae cefnogaeth gyfoed i gyfoed yn ychwanegu gonestrwydd, profiadau go iawn a chymeriad i’ch gwefan. Gall hefyd fod yn anodd os nad yw’r cyngor sy’n cael ei gynnig yn grêt neu’n hollol anghywir.
Yma yn ProMo-Cymru rydym wedi defnyddio dull o gefnogaeth gyfoed i gyfoed sydd wedi profi’n llwyddiannus ar dri o’n gwefannau:
Modryb Sprout ar TheSprout.co.uk
Dyma Fodryb Gofidion ar gyfer rhai 11-25 oed yng Nghaerdydd i rannu beth bynnag sydd yn eu poeni.
Rhannu’r Baich… ar PwyntTeulu Cymru
Dyma blatfform i rieni a theuluoedd ledled Cymru i rannu pwnc sydd yn cael effaith arnyn nhw.
Gafael yn y Meic ar Meic
Yn debyg i’r Fodryb Sprout ond dros Gymru.
Mae pob un yn dilyn fformat tebyg. Mae defnyddiwr yn cysylltu â’r wefan drwy ffurflen gyswllt ar y wefan. Rydym yn gyrru hwn i’r cynghorwyr ar ein llinell gymorth i ddarparu ymateb. Yna rydym yn cyhoeddi ar-lein ac yn annog darllenwyr i ddefnyddio’r adran sylwadau i rannu eu cyngor.
Felly sut mae gwneud i waith cefnogaeth gyfoed i gyfoed weithio i chi, eich gwasanaeth a’r bobl sy’n ei ddefnyddio? Dyma 4 awgrym…
1. Ymateb yn syth
Mae rhywun wedi cymryd amser i rannu mater neu broblem gyda chi. Sicrhewch fod gennych chi ymateb stoc mewn lle a’i yrru cyn gynted â phosib. Diolchwch nhw am y neges, dywedwch yn onest pa mor hir bydd yn cymryd i’r erthygl fynd yn fyw, a chynnig llinellau cymorth gall helpu’n syth. Yma yn ProMo-Cymru rydym yn tueddu cyfeirio at linellau cymorth Meic a PwyntTeulu.
Ond wrth ddweud “ymateb yn syth” nid gosod awto-ymateb yw’r ateb. Rhaid newid a theilwro’r ymateb yn ôl eu pryderon. Os ydynt mewn peryg ar hyn o bryd yna mae’n rhaid i chi gysylltu â’r awdurdodau. Dwi’n goruchwilio Modryb Sprout a Rhannu’r Baich ac nid yw hyn wedi digwydd erioed, ond wyddoch chi ddim.
2. Cadw popeth yn ddienw
Rydym yn gofyn am enw a chyfeiriad e-bost, a dyma’n sianel cyfathrebu ni gyda’r defnyddiwr. Nid ydym yn cyhoeddi dim o’r manylion yma ac yn aml rydym yn newid manylion, enwau pobl, lleoliadau ac ati fel bod popeth yn cael ei gadw’n ddiogel a ddim yn cael neb i drafferthion. Mae’r anhysbysrwydd yma yn caniatáu i bobl mynegi eu hunain yn fwy rhydd, ond mae angen i ni ofyn am gyfeiriad e-bost fel bod gennym o leiaf un ffordd o gysylltu.
3. Darparu ymateb swyddogol
Os nad ydych chi’n gyffyrddus yn darparu ymateb eich hunain yna gallech chi bartneru gyda llinell gymorth neu ddarparwr gwybodaeth sydd â phrofiad yn y maes yna. Gall wneud hyn ar sail swyddogol ac weithiau efallai bydd y sefydliad yn gofyn am rywbeth yn ôl. Gall hyn fod yn rhywbeth mor syml â hysbyseb baner neu hyrwyddiad o fewn yr erthygl, i gytundeb ariannol.
Os ydych chi yng Nghymru beth am bartneru gyda Meic neu PwyntTeulu – cysylltwch â ni yma yn ProMo-Cymru.
Peidiwch ofni cysylltu gyda sefydliadau ar sail ad-hoc, yn enwedig os ydynt yn arbenigo mewn pwnc nad ydych chi yn delio ag ef yn arferol. Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i ofyn iddynt i ddarparu ymatebion ychwanegol ar ôl i chi gyhoeddi’r erthygl, gan fod hyn yn gweithio fel hyrwyddiad i’r ddau ohonoch.
4. Monitro sylwadau
Monitro sylwadau o flaen llaw neu wedyn. Ydych chi’n gadael i sylwadau fynd yn fyw yn syth ac yna’n eu tynnu i lawr os yw defnyddiwr arall yn tynnu sylw atynt? Neu ydych chi’n monitro popeth sydd yn mynd yn fyw? Mae yna ochr dda a drwg i’r ddwy system.
Monitro o flaen llaw
Da: Diogel – nid oes dim yn cael ei gyhoeddi heb i chi ei weld gyntaf
Drwg: Arafu trafodaethau a gall defnyddwyr golli amynedd nad yw’r sylwadau yn mynd yn fyw yn syth
Monitro wedyn
Da: Sydyn
Drwg: Gall deunydd amhriodol a sarhaus ymddangos ar eich gwefan heb i chi fod yn ymwybodol.
Mae posib gosod hidlydd iaith wrth gwrs, ond yma yn ProMo-Cymru rydym yn tueddu gweithio ar system monitro o flaen llaw ar ein gwefannau. Os yw’ch tudalennau cefnogaeth gyfoed i gyfoed yn cynnwys pynciau anodd neu sensitif yna efallai bydda’n well gennych chi fonitro o flaen llaw hefyd. Os ydynt yn bynciau mwy ysgafn fel cefnogaeth dechnegol yna mae’n annhebyg y byddech chi’n denu troliaid a bydd posib monitro wedyn.