3 Rheswm i Ddefnyddio Capsiynau ac Is-deitlau

by Dayana Del Puerto | 18th Mai 2016

Os ydych chi’n cynhyrchu fideo, yna mae’n eithaf amlwg dylid defnyddio capsiynau ac is-deitlau, oherwydd:

1. Maent yn gymorth i bobl ddeall eich fideo

2. Mae llawer o bobl yn eu defnyddio

3. Mae’n helpu pobl i ddod o hyd i’ch fideo ar-lein

Wrth ystyried is-deitlau, mae’r mwyafrif yn meddwl eu bod yn bodoli ar gyfer pobl gydag anawsterau clywed – ond dim ond un o’r rhesymau yw hyn.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng capsiynau ac is-deitlau?

Capsiynau – Mae capsiynau yn disgrifio’r holl wybodaeth glywedol. Mae hyn yn cynnwys y geiriau sydd yn cael eu siarad, yn ogystal ag effeithiau sain a cherddoriaeth. Gelwir y rhain yn capsiynau caëedig weithiau.

Is-deitlau – Mae is-deitlau yn ffurf ysgrifenedig o’r geiriau sydd yn cael ei siarad. Maent yn berffaith i unrhyw un sydd eisiau cadarnhad o’r hyn sydd yn cael ei ddweud. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ychydig yn drwm eu clyw, neu yn gwylio mewn swyddfa brysur heb sain. Maent hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd yn dysgu iaith newydd neu os yw’r fideo yn eu hail iaith.

Pam trafferthu gydag is-deitlau?

Mae cynnwys amlgyfrwng yn cael ei wylio’n fwy aml bellach ar ddyfeisiau bach fel tabledi a ffonau symudol. Mae ychwanegu capsiynau neu is-deitlau i’ch cynnwys cyfryngol yn golygu bod y defnyddiwr yn gallu gwylio’r fideo ar y bws rhag tarfu ar eraill, neu orfod dyfalu os yw actor yn wylo neu’n chwerthin.

Mae Ofcom, corff rheoli darlledu teledu’r DU, wedi cynnal astudiaeth o ddefnydd is-deitlau yn 2006 gan ddarganfod nad oes gan chwe miliwn o’r 7.5 miliwn yn y DU sydd yn defnyddio is-deitlau nam ar eu clyw o gwbl. Gweler yr adroddiad llawn yma.

Maent yn gwella eich SEO hefyd, sydd yn helpu mwy o bobl i ddod o hyd i’ch fideos ac yn cynyddu’r sawl sydd yn gwylio.


Mae ProMo-Cymru yn defnyddio capsiynau yn ei holl fideos. Oherwydd y 3 rheswm nodir uchod ac oherwydd ein bod yn gweithio’n ddwyieithog yng Nghymraeg a Saesneg hefyd. Os hoffech fanylion pellach am ddefnyddio is-deitlau yn eich gwaith, neu eisiau archwilio sut i weithio’n ddwyieithog mewn fideo, yna cysylltwch.