Croeso i ProMo-Cymru

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, wedi’u cysylltu ac yn cael eu clywed.

Ein Gwasanaethau

Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.

Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 20 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau.

Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; mae’r elw yn cael ei fuddsoddi’n ôl i’n prosiectau cymunedol.

Edrychwch ar ein gwasanaethau

“Mae ProMo-Cymru yn arloesol, yn wybodus yn dechnolegol ac yn gosod barn bobl ifanc a chymunedau yng nghalon y meddwl.”

Simon Morris, Arweinydd Cyflawniad, Cyngor Sir Caerdydd

PromoCymru Team

Ein Tim

Mae ProMo-Cymru yn gwerthfawrogi ei staff, gyda phwyslais ar sgiliau a datblygiad personol. Rydym yn creu cydbwysedd o waith tîm, annibyniaeth a synnwyr o gyfrifioldeb wrth weithio tuag at wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Hynny yw, rydym yn gweithio’n galed ar ran a gyda’n cleientiaid a’n partneriaid, ac yn mwynhau rhannu’r gwobrau â nhw.

Cyfarfod ein tîm