Ymgynghori Effeithiol Gyda Chymunedau Lleol

by Cindy Chen | 21st Maw 2018

Wyddoch chi fod posib comisiynu ProMo-Cymru i helpu chi i ymgynghori ag aelodau’r gymuned leol? Rydym yn arbenigwyr yn cyfathrebu a chysylltu gyda gwahanol grwpiau targed. Gallem ddarganfod eu hanghenion a chynnig ffyrdd i greu newid positif. Gadewch i ni leddfu’r boen o ymgynghori.

Dyma’n union y gwnaeth Buddsoddi Lleol Ynysowen yn ddiweddar. Cawsom ein comisiynu i ymgynghori gydag aelodau o’r gymuned yn Aberfan, Ynysowen a Bryn Hyfryd.

logo buddsoddi lleol erthygl Ymgynghori Effeithiol

Beth ydy Buddsoddi Lleol?

Mae Buddsoddi Lleol yn rhaglen o arian a chefnogaeth 10 mlynedd ar gyfer 13 o gymunedau ledled Cymru. Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr ac yn cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT). Mae’n gyfle i bawb sydd yn byw yn y cymunedau yma i’w wneud le gwell i fyw. Bydd pob ardal yn derbyn £1miliwn i wario ar flaenoriaethau lleol dros y 10 mlynedd nesaf.

Felly mae pob cymuned yn penderfynu sut i ddatblygu’u hardal. Byddant yn penderfynu sut i ddefnyddio’r arian, pwy hoffant weithio â nhw, a sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.

Sut ymgynghorom?

Yn ehangu ar ymdrechion ymgysylltu blaenorol, defnyddiodd ProMo-Cymru ddull dwybig ar-lein ac all-lein. Defnyddiwyd y dull yma i gysylltu gyda mwy o aelodau’r gymuned a chlywed eu barn.

Cafodd holiadur ar-lein byr ei greu a’i hyrwyddo’n drwm ar Facebook. Cysylltwyd â grwpiau a thudalennau yn Aberfan, Ynysowen a Bryn Hyfryd. Yn ogystal â hyn, e-bostiwyd gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Canmolwyd hyn gydag arolygon wyneb i wyneb ar y stryd. Cyflawnwyd hyn ar wahanol ddiwrnodau dros gyfnod o dri mis. Siaradom gyda pherchnogion busnes, preswylwyr, rhieni, plant, grwpiau cymunedol ayb. Cynhaliwyd sesiwn grŵp ffocws i gael darlun mwy manwl hefyd.

Y cam nesaf?

Bydd ProMo-Cymru yn casglu’r holl ddarganfyddiadau ac yn dadansoddi’r data i greu adroddiad crynodeb byr. Bydd yr adroddiad cryno yma yn tynnu’r data pwysig o’r ymatebion ac yn cyflwyno hyn mewn ffordd hawdd i’w ddeall. Byddem hefyd yn cynnig awgrymiadau i’r Grŵp Llywio i’w caniatáu i wneud penderfyniadau gwybodus ar y ffordd gorau i symud ymlaen.

Os hoffech fanylion pellach am ddefnyddio arbenigedd ProMo-Cymru i ymgynghori gyda’r cyhoedd, yna cysylltwch am sgwrs a phris. E-bostiwch Cindy Chen, Rheolwr Datblygu, ar cindy@promo.cymru.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru