Ydych chi eisiau bod mor effeithlon â NASA?

by Marco Gil-Cervantes | 6th Rhag 2016

Ydych chi eisiau bod mor effeithlon â NASA? Mor sydyn ac ymatebol â Buzzfeed?

Mor fawr ag Airbnb?

Yna byddwch yn ‘Slack’!

Mae yna lwyth o apiau gellir eu defnyddio i wneud pethau a chyfathrebu gyda grwpiau o bobl. Ond mae yna un sydd yn sefyll allan yn fwy na’r lleill, sef y platfform cydweithio gelwir yn Slack. Mae NASA, Airbnb a Buzzfeed yn canu clodydd y rhaglen ac yn ei ddefnyddio i wneud pethau diddorol iawn.

Mae Slack yn declyn i weithio ar brosiectau gyda phobl eraill. Efallai bod hynny’n swnio’n debyg iawn i e-bost neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook neu Whatsapp.

Ond rhywsut, mae Slack yn well, yn cythruddo llai ac yn haws i’w ddefnyddio.

slack_cmyk-1219x349

Os ydych chi eisiau gweithio ar brosiect gyda ffrind neu grŵp mawr yna mae posib creu ‘sianeli’ i gael sgyrsiau a llwytho neu gysylltu i ddogfennau pwysig neu wefannau eraill. Ond beth sy’n gwneud Slack yn wych ydy’r gallu i edrych yn ôl a chwilio drwy hen sgyrsiau a chadw trac ar sut mae’r prosiect yn datblygu ar y cyfan. Os yw aelod newydd yn ymuno â’r tîm, mae hyn yn ffordd ddefnyddiol iawn iddynt weld sut mae’r sgwrs wedi datblygu ac i gael mynediad i’r holl wybodaeth sydd ei angen i gyd mewn un lle. Mae hyn yn gwneud Slack yn hygyrch iawn ac yn groesawus iawn i bobl newydd.

Mae Slack hefyd yn hoff o emojis a tra’i fod yn hwyl mae hefyd yn caniatáu i chi leihau faint o e-byst sydd yn cael eu gyrru a’u derbyn er mwyn cyfleu syniad i berson arall. Mae pobl sydd yn defnyddio Slack wrth eu boddau gydag ef gan ei fod yn lleihau’r e-byst sy’n cael ei yrru ac yn helpu pobl i lwyddo cyrraedd y sefyllfa berffaith gelwir yn ‘e-bost sero’.

Mae Slack yn rhad ac am ddim, mae yna gynlluniau gellir talu amdanynt ond dim ond sefydliadau mawr fydd angen hyn yn gyffredinol. Os ydych chi’n cychwyn tîm Slack eich hun ac yn chwilio am gydweithwyr i ymuno yna rhowch wybod i ni a gallem dynnu sylw at eich grwpiau.

Dolenni tebyg:

Trawsffurfio eich cyfathrebiad

Sut i greu cynnwys cost isel, effaith uchel