Swydd Wag: Cydlynydd Ymgysylltu Ieuenctid Amgueddfa Cymru

by Tania Russell-Owen | 14th Awst 2017

Pobl ifanc gydag arteffactau ar gyfer Swydd Wag Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn chwilio am gydlynydd ymgysylltu ieuenctid!

Cytundeb: 35 awr yr wythnos (dros dro am 6 mis)

Cyflog: Gradd E: £24,523.91 – £31,143.17 y flwyddyn (Wedi’i selio ar gyflog llawn amser £25,925.28 i £32,922.78 y flwyddyn)

Dyddiad cau: 23 Awst 2017 (erbyn 5pm)

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes? Hoffech chi weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru? Yna gall hwn fod yn swydd ddelfrydol i chi!

Mae Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, mewn partneriaeth â ProMo-Cymru, Barnardo’s Cymru a Llamau, yn chwilio am rywun i’w helpu i drawsffurfio’r ffordd mae pobl ifanc 11-25 oed yn ymgysylltu ac yn cymryd rhan mewn treftadaeth a diwylliant.

young people doing history stuff for Job Vacancy: Youth Engagement Coordinator, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales article

Cefnogir y swydd hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri trwy’r rhaglen grant Tynnu’r Llwch. Amcan Tynnu’r Llwch ydy trawsffurfio sut mae treftadaeth yn cysylltu gyda phobl ifanc gyda phrosiectau uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar ieuenctid.

Swydd 6 mis yw hon i gychwyn. Byddech yn gweithio gyda phobl ifanc, partneriaid a staff Amgueddfa Cymru ar ddatblygu’r cynllun ‘Hands on Heritage’, cais ail rownd am arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Tynnu’r Llwch.

Mae’r disgrifiad swydd lawn i’w weld ar wefan amgueddfa.cymru, yn ogystal â’r ffurflenni cais a monitro cydraddoldeb, a ble i yrru’r rhain. Pob lwc.

Unrhyw gwestiynau neu eisiau manylion pellach? Cysylltwch hr.jobs@museumwales.ac.uk


Diddordeb yn ein dull o weithio yma yn ProMo-Cymru?

A gan eich bod chi yma, beth am ddarllen rhai o’n blogiau eraill?