Model TYC – Trawsffurfio, Ymgysylltu, Cyfathrebu

Mae’r model TYC yn fodel cyfathrebu digidol integredig arloesol yn canolbwyntio’n benodol ar gynhwysiad, hygyrchedd a chyrhaeddiad.

Trosolwg

Mae’r model TYC (Trawsffurfio, Ymgysylltu, Cyfathrebu) yn ymgorffori gwefan, llinell gymorth gwybodaeth, cyngor a chymorth (ffôn, neges testun, sgwrs ar-lein) a chyfryngau cymdeithasol gellir ei addasu’n hawdd i’w ddefnyddio gydag gwahanol gynulleidfaoedd.

Mae’n ddull sydd wedi’i weithredu’n llwyddiannus gyda phrosiectau fel theSprout, CLIC, Meic, PwyntTeulu Cymru a Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr.

Ein Dull

Prif nodweddion y model TYC ydy:
– Dull yn canolbwyntio ar y cwsmer i drosglwyddo datrysiadau sydd yn cyrraedd eich canlyniadau.
– Rhith ganolfan galw gyda llinell gymorth ar y ffôn, gwasanaeth neges testun, sgwrsio ar-lein ac e-bost.
– Pwynt cyswllt sengl i gael mynediad i wasanaethau.
– Llwyfan i rannu eich prif negeseuon.
– Llwyfan i gysylltu gyda dinasyddion a hyrwyddo’u llais.

Egwyddorion Craidd y Model TYC

 

CYMORTH GWEITHREDOL

Yn canolbwyntio ar addysg, ataliad, ymyrryd cynnar a hunangymorth

CYD-DDYLUNIO

Gwrando ac ymrwymo dinasyddion yn weithredol yn y dyluniad o’r gwasanaeth

CANOLBWYNTIO AR DDINASYDDION

Darparu’r cymorth cywir ar yr amser cywir yn y ffordd dymunai dinasyddion

HYGYRCHEDD

Darparu gwybodaeth mewn Cymraeg a Saesneg syml a chryno

PDF o’r llyfryn Model TYC llawn ar gyfer Cymru.

 

Ein Gwasanaethau

Canolfan galw gyda chynghorwyr hyfforddedig

Tîm o gynghorwyr medrus iawn yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r defnyddwyr terfynol. Mae oriau gweithredu yn hyblyg, yn ddibynnol ar eich anghenion.

Cydlynu a rheoli strategol

Darparu cydlyniaeth a rheolaeth strategol ddi-dor o drosglwyddo gwasanaeth er mwyn sicrhau cyrraedd eich targedau.

Ymrwymiad ac ymgynghoriad dinasyddion

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs yn ProMo-Cymru. Rydym yn credu’n gryf mewn ymgynghori a chyd-ddylunio gyda’n defnyddwyr terfynol. Mae’r broses yma yn sicrhau ein bod yn creu gwasanaethau a chynnyrch sydd yn cael ei werthfawrogi gan ein defnyddwyr terfynol.

Dadansoddi

Mae deall sut mae’ch teclynnau cyfathrebu yn perfformio yn allweddol i hysbysu datblygiadau cyfredol. Byddem yn darparu’r wybodaeth yma i’ch caniatáu i ddilyn a gwerthuso’ch allbwn.

Creu cynnwys

Creu cynnwys pwrpasol, o ansawdd, i hysbysu ac ymgysylltu â’ch defnyddwyr terfynol, gellir ei reoli drwy system rheoli cynnwys (CMS).

Brandio a gwerthoedd

Yn gweithio gyda chi a’ch defnyddwyr terfynol i ddatblygu’r brandio cywir ar gyfer eich gwasanaeth, yn sicrhau eich bod yn cyfathrebu’n glir pwy ydych chi a’r pethau gallech chi ei gynnig.

Cyfathrebu a marchnata digidol

Dyfeisio strategaethau marchnata digidol addas gan ddefnyddio SEO, Google AdWords, marchnata cynnwys a marchnata cyfryngau cymdeithasol i gysylltu gyda’r defnyddwyr terfynol.

Dylunio a datblygu gwefan

Dylunio a datblygu gwefannau, gan gynnwys rhai wedi’u diogelu gyda SSL, yn defnyddio dull cyd-gynhyrchu i gynnwys nodweddion a swyddogaethau i weddu anghenion y defnyddwyr terfynol.

Technoleg rith ganolfan galw a datblygu bas data

Sefydlu technoleg canolfan galw aml-sianel, wedi’i sefydlu yn y cwmwl, yn cynnig diogelwch a hyblygrwydd a system rheoli data pwrpasol i gasglu achosion i fonitro a gwerthuso.

“Mae hwn yn wasanaeth gwych. Nid ydych chi’n cael yr atebion rydych chi’n chwilio amdanynt bob tro pan fyddech chi’n gofyn i weithwyr proffesiynol, neu mae’n cael ei roi mewn ffordd annealladwy. Rydym yn chwilio am wybodaeth union a hawdd sy’n hygyrch.”

– Mam-gu o Lyn Ebwy.