Datblygiad Cymunedol a Diwylliannol

Mae cymunedau iach yn ffynnu pan fydd ei aelodau yn derbyn cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau, a pan fydd gofod i gyfarfod, cyfrannu syniadau, darganfod creadigedd a rhagweld eu dyfodol.

Trosolwg

Mae ProMo-Cymru yn rhoi pobl a chymunedau yng nghalon eu holl wasanaethau, bod hyn yn creu llwyfan ar-lein a hyfforddiant golygyddol er mwyn i bobl ifanc fynegi eu barn, uwchsgilio gweithwyr proffesiynol yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i drawsffurfio’r ffordd maent yn cyflwyno gwasanaeth, neu gymryd drosodd a datblygu adeilad i greu gofod diwylliannol yn y gymuned. Mae gennym y profiad, adnoddau a’r gyriad i’ch helpu chi i gael effaith positif.

Roedd y trosglwyddiad ased cymunedol Institiwt Glyn Ebwy (EVi), wedi bod yn sefyll yn wag am ddwy flynedd yn denu ymddygiad anghymdeithasol. Wrth weithio mewn partneriaeth â chyngor Blaenau Gwent ac ymgynghori gyda thrigolion lleol, mae’r EVi wedi adfywio’r ardal ac wedi dod yn ganolfan diwylliannol a busnes i’r gymuned.

Ein Dull

Rydym yn sicrhau bod llais y gymuned yng nghalon dyluniad ein gwasanaeth fel bod eu hanghenion yn cael eu cyrraedd. Rydym yn gwerthfawrogi gweithio’n gydweithiol fel ffordd o ddefnyddio’r amrywiaeth llydan o sgiliau cryf. Mae ein drysau yn agored bob tro i syniadau arloesol gan botensial bartneriaid neu rhai sydd eisoes wedi’u sefydlu. Rydym yn gweithio â nhw i roi bywyd i brosiectau.

Datblygu a Rheoli Lleoliad

Mae’r Abacus (swyddfeydd Bysus Caerdydd yn wreiddiol) wedi’i sefydlu fel un o leoliadau mwyaf creadigol Caerdydd. Yn cael ei reoli ar y cyd â’r artistiaid The Modern Alchemists, mae’r Abacus yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus a phreifat ac yn hurio gofod swyddfa, ystafelloedd ymarfer band a stiwdios artistiaid.

Cysylltu gyda Grwpiau Cymunedol

Dim ond pan fydd yr holl leisiau wedi’u clywed a’r farn wedi’i werthfawrogi gellir gwneud penderfyniadau da. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i addasu ein dull, iaith ac adnoddau i sicrhau bod anghenion ein cwsmeriaid a’u cleientiaid yn cael eu cyrraedd.

Rheoli Digwyddiadau

Rydym yn paratoi cyngor strategol, yn cyflenwi systemau llwyfannu a PA, paratoi cyflwyniadau amlgyfrwng, yn dylunio a phostio gwahoddiadau, rheoli’r rhestr gwesteion, dod o hyd i leoliadau addas sy’n ffitio’ch cyllid, darparu ffotograffiaeth, fideo a chysylltiadau cyhoeddus a rhedeg eich digwyddiad ar y dydd.

Stiwdio Recordio

EVi
Ystafell ymarfer band gyda llinell gefn – sam@ebbwvaleinstitute.org – 01495 70 8022
Stiwdio Recordio – www.leedersvale.com – info@leedersvale.com

The Abacus
Ystafell ymarfer band gyda llinell gefn – tom@promo-cymru.org

Hyfforddiant Sgiliau

Rydym yn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol mewn llythrennedd digidol, cyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu creadigol, ffilm ac animeiddiad i drawsnewid y ffordd rydych chi’n cyfathrebu eich neges. Gallem gynnig hyfforddiant i weithwyr proffesiynol, pobl ifanc a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

“Mae gan yr EVi swyddogaeth sylweddol yn natblygiad diwylliannol Glyn Ebwy a’i bobl, yn ogystal â swyddogaeth strategol Blaenau Gwent o fewn ardal blaenau’r cymoedd”

Ymchwil Miller