Rhannu Sgiliau Gwaith Ieuenctid Digidol Gydag Ewrop

by Tania Russell-Owen | 21st Tach 2018

Yr wythnos hon byddem yn croesawu cynrychiolwyr Llywodraeth Catalonia i’n swyddfeydd. Maent yn ymweld i ddysgu mwy am sut mae ProMo-Cymru yn cyfathrebu ar-lein. Trefnwyd yr ymweliad yn dilyn sgwrs yn y Wcráin ar ddechrau’r haf.

Yn ôl yn fis Mehefin ymwelodd ein Prif Weithredwr, Marco Gil-Cervantes, â Wcráin i gyflwyno mewn seminar yn cefnogi datblygiad gwybodaeth ieuenctid ac eiriolaeth ar-lein yn y wlad.

“Yn ystod yr ymweliad cefais sawl sgwrs ddifyr gyda Montserrat Herguido o Gatalonia,” meddai Marco.

“Awgrymodd y byddai’n hoff o ymweld â Chymru a dysgu mwy am waith cyfathrebu ar-lein ProMo-Cymru, a dyma bwrpas yr ymweliad presennol.”

Yn anffodus nid yw Montserrat ei hun yn gallu bod yn bresennol y tro hyn, ond bydd pedwar o gynrychiolwyr Asiantaeth Ieuenctid Catalonia yn ymweld dydd Iau a dydd Gwener.

Bu Marco Gil-Cervantes yn cyflwyno Gwaith Digidol

Marco Gil-Cervantes | Prif Weithredwr | ProMo-Cymru

Y seminar yn y Wcráin

Cynhaliwyd Seminar Cenedlaethol Gwybodaeth Ieuenctid a Gwasanaethau Cwnsela yn Vinnytsia, Wcráin ar 20 a 21 Mehefin. Roedd Cyngor Ewrop wedi gofyn i ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth Ieuenctid a Chwnsela Ewrop) gynnig cefnogaeth i adrannau ieuenctid Llywodraeth y Wcráin i ddatblygu’r rhwydwaith gwybodaeth ieuenctid mewnol.

Bu pobl o ledled y Wcráin yn mynychu, ardal o dros 1,000 milltir o led a 1,000 milltir o hyd. Gwrandawyd ar amrywiaeth o siaradwyr gan gynnwys Gweinidogion Llywodraeth a gwasanaethau ieuenctid. Gwahoddodd ERYICA gynrychiolaeth o aelodau’r rhwydwaith i gyflwyno ac arddangos ymarfer gorau. Yn bresennol roedd:

– Evaldas Ruckus – Gwybodaeth ieuenctid yn yr Almaen (Cydlynydd Lithwania gynt)
– Mika Pietilä – Gwybodaeth ieuenctid yn y Ffindir
– Marco Gil-Cervantes – ProMo-Cymru
– Montserrat Herguido – Gwybodaeth ieuenctid Llywodraeth Catalonia

Rhoddwyd ychydig o hyfforddiant ERYICA i’r gweithwyr ieuenctid a gweithwyr gwybodaeth ieuenctid ar yr ail ddiwrnod, a phawb yn rhannu i grwpiau gweithio i drafod tyfu gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid yn y Wcráin.

Pam bod ProMo-Cymru yno?

Gwahoddwyd ProMo-Cymru i gyflwyno gweithdy ar Waith Gwybodaeth Ieuenctid Digidol.

“Mae’r Wcráin ar gychwyn siwrne.” eglurai Marco.

“Fy rhan i yn y seminar oedd canolbwyntio ar y defnydd o wybodaeth ddigidol. Cyflwynais theSprout, Meic a’r ffordd mae ProMo-Cymru yn cynhyrchu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol wrth gynnwys pobl ifanc, fel y llwyddiant ‘Pili-pala’.”

Cyflwynodd Marco ein Model TYC arloesol a thrafod egwyddorion y fethodoleg ystwyth/darbodus. Gofynnodd i’r rhai oedd yn bresennol yn y gweithdy i gynllunio prosiect cyntaf ar raddfa fach fydda’n gallu cael ei gynhyrchu a’i brofi o fewn mis.

“Cawsom syniadau yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hysbysu am y llety oedd ar gael i bobl ifanc yn eu hardal a chaniatáu i bobl ifanc raddio’r llety ar-lein, slot 5 munud ar deledu Ieuenctid ar deledu lleol,” ychwanegodd Marco.

“Mae meddwl yn ystwyth yn arwain at gychwyn yn fach, profi, dysgu ac ailadrodd. Mae’n symud i ffwrdd o’r cynllun mawr sydd wedi dod o syniadau mawreddog. Siaradom am osgoi’r eliffant gwyn, ac roeddwn yn ymwybodol o hanes y Wcráin ar feddwl ‘cynllunio’.”

Sut aeth pethau?

Felly sut teimlai Marco oedd y gweithwyr ieuenctid Wcráin wedi ymateb i’r wybodaeth rhoddwyd yn ystod y seminar?

“Mae’r Wcráin mewn cyfnod o newid ac yn parhau i fod mewn gwrthdrawiad arfog gyda Rwsia ar y ffin ddwyreiniol. Roedd y gynhadledd a’r ganolfan ieuenctid oedd yn cynnal y gynhadledd yn fodern ac roedd yn amlwg bod gan y mynychwyr ifanc agweddau modern, er teimlais fod yna ychydig o ‘ddisgwyl am ganiatâd’ cyn symud ymlaen (ond mae hyn wedi’i selio ar reddf yn hytrach nag ffaith a gall hyn fod yn anghywir weithiau). Gwelwyd bod llawer o gerbydau’r cyngor yn dod o ddyddiau’r fyddin Sofiet.

“Roedd yr ymrwymiad a’r parodrwydd i ddysgu yn amlwg. Mae datblygiad gwybodaeth ieuenctid yn y Wcráin yn ymrwymiad i ddatblygu’r dyfodol, dyma di phobl, a dadlaf mai dyma ei dyfodol fel democratiaeth,” gorffennodd.


Mae’r gwaith yma yn bosib oherwydd grant derbyniwyd gan y Sefydliad Paul Hamlyn. Bwriad y grant yma ydy ehangu ein gwaith presennol a datblygu opsiynau’r dyfodol ar gyfer rhith waith ieuenctid a gwasanaethau gwybodaeth.

Cadwch lygaid ar ein cyfrif Twitter ar ddiwedd yr wythnos i glywed hanes ein ffrindiau Catalanaidd.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru