ProMo-Cymru Yn Cymryd Rhan Yn Gofod3

by Tania Russell-Owen | 31st Gor 2018

Yn ôl yn fis Mawrth eleni, roedd ProMo-Cymru yn falch iawn o gymryd rhan yn nigwyddiad gofod3 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yma bûm yn cyflwyno gweithdai a chynnal stondin yn y neuadd arddangos.

Trefnwyd gofod3 gan y WCVA fel digwyddiad i arddangos gwaith y Trydydd Sector yng Nghaerdydd. Mae’n le i rwydweithio, i ddysgu gan eraill ac i gydweithio.

Cymryd Rhan

Cyflwynodd ProMo-Cymru dau weithdy yn gofod3 yn edrych ar gysylltu gyda dinasyddion wrth ddefnyddio dulliau digidol.

“Nid oes digwyddiad tebyg i hwn yng Nghymru ac roedd yn ddigwyddiad gwerthfawr iawn i gymryd rhan ynddi,” eglurai Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu yn ProMo-Cymru.

“Yn y dirwedd bresennol o doriadau a gofynion cynyddol, mae llawer o wasanaethau yn wynebu heriau go iawn. Dros y 30 mlynedd diwethaf gwraidd gwaith ProMo-Cymru ydy cydweithrediad.

“Wrth weithio â’n gilydd a ffurfio partneriaethau effeithiol rydym yn deall y gallem gynnig gwasanaethau effeithiol sydd yn buddio dinasyddion Cymru,” ychwanegai Arielle.

Andrew ar stondin ProMo-Cymru yn gofod3

Beth ddigwyddodd?

Cynigwyd llawer iawn o gyflwyniadau a sesiynau yn gofod3 yn edrych ar bethau fel GDPR, amrywiaeth, creadigedd, cyfryngau cymdeithasol, brand gwirfoddoli, grantiau, ariannu, Brexit a llawer, llawer mwy.

Bu’n tîm creadigol yno gyda chamera a microffon yn siarad gyda rhai o’r sefydliadau eraill oedd yn arddangos yn gofod3. Gofynon wrthynt i egluro mwy am eu gwaith ac egluro pam roeddent yno. Gwyliwch y fideo uchod i ddarganfod mwy.


Os oes gennych chi ddiddordeb ein gwaith yma yn ProMo-Cymru yna edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl gwaith ieuenctid digidol

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru