The Abacus

Trosolwg

Roedd yr Abacus yn lleoliad cymunedol yn cael ei arwain gan artistiaid oedd eisiau darparu llwyfan i bobl greadigol i rannu’u syniadau gyda’r cyhoedd, grwpiau ac unigolion eraill o’r un meddylfryd.

Ni welwyd dim o’i fath yng nghanol dinas Caerdydd cyn yr Abacus, ond roedd yna awydd ac angen clir amdano gyda’i fflach-ddigwyddiadau poblogaidd a bwrlwm y byd celfyddydau.

Roedd y lleoliad yn cynnwys dwy ystafell oriel, deg stiwdio artistiaid, dwy stiwdio cerddoriaeth, mannau cyfarfod, gofodau perfformio a gweithdai.

Ein Dull

Hen swyddfa docynnau bws Caerdydd oedd yr adeilad. Cysylltodd yr artistiaid lleol y Modern Alchemists â ni gyda chynlluniau uchelgeisiol i droi hwn yn oriel. Roedd Cyngor y Ddinas yn hael iawn yn rhoddi’r lleoliad heb angen talu rhent, ac wrth gydweithio gyda ProMo-Cymru, y Modern Alchemists a sawl un creadigol arall o Gaerdydd, datblygodd i mewn i’r llwyddiant yr oedd.

Ymatebodd  i anghenion y gymuned a thyfu gyda’r bobl oedd yn ei ddefnyddio a’i breswylio. Roedd yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gyda chefnogaeth a mewnbwn gwirfoddolwyr, ac yn cael ei hunan ariannu gyda digwyddiadau, gweithdai ac arddangosfeydd. Roedd yn esiampl o gydweithio pur.

Canlyniad

Daeth yr Abacus yn  un o ganolfannau creadigol mwyaf poblogaidd Caerdydd. Roedd yn agored pum diwrnod yr wythnos, gydag arddangosfeydd bob pythefnos, yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth, gwyliau, ac amrywiaeth o ddosbarthiadau o hwla-hŵpio i weithdai byw’n gynaliadwy, gyda stiwdio cerddoriaeth ac ystafell ymarfer band… ac roedd yn tyfu’n barhaol.

Ni dderbyniodd y prosiect unrhyw gyllid, ac roedd yn hunan-gynaliadwy diolch i waith caled y gwirfoddolwyr a’r incwm wedi’i hunan generadu.

Yn y pen draw bu rhaid i’r Abacus gau ei ddrysau wrth i’r adeilad gael ei ddychwelyd i’r cyngor i’w ddymchwel er mwyn adeiladu’r orsaf bysiau newydd i Gaerdydd.

“Dwi wedi bod yn rhan o fyd celfyddydau Caerdydd am bron i 20 mlynedd, ac mae’r ddinas wedi bod yn gweiddi allan am ofod fel hyn. Mae eraill wedi ceisio, ac wedi ffaelu, ran amlaf am nad oedd ganddynt gemeg unigryw’r Abacus. Mae’n gymaint o gyflwr meddwl ag y mae’n ofod celfyddydol, heb gyfundrefn nac maniffesto, sefydliad na chlic.”

John Pountney, Ffotograffydd o Gaerdydd