EVI

Trosolwg

Cychwyniad yr adfywiad o Institiwt Glyn Ebwy (EVI) oedd yr angen i sefydlu gofod newydd ar gyfer datblygiad diwylliannol a chreadigol. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II a’r institiwt hynaf yng Nghymru yn mynd yn ôl i’r flwyddyn 1849, ond roedd wedi’i adael ac mewn cyflwr o adfeiliad. Yn ogystal â hyn, roedd yr ardal ble leolir yr EVI angen buddsoddiad ac adfywiad er mwyn adnewyddu’r ardal.

Ein Dull

Bwriad yr EVI ydy cyflwyno amrywiaeth i fywydau dyddiol cymuned Glyn Ebwy, a helpu rhoi hwb i ragolwg busnes Glyn Ebwy. Gyda’r buddsoddiad yma yn uwchraddio’r EVI gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf, mae ProMo-Cymru yn adnabod y pwysigrwydd o ddiogelu hanes yr ardal.

Canlyniad

Mae’r EVI yn agored i bawb yn y gymuned. Mae’r adeilad yma yn cyflwyno’i hun fel canolbwynt adnewyddiad i’r ardal, yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol. Mae cyfleusterau yn cynnwys caffi yn cynnig byrbrydau a bwyd gyda mynediad WiFi am ddim, lleoliad ar gyfer digwyddiadau, cyngherddau, parti priodas neu bartïon fel arall gyda bar trwyddedig, cyfleusterau cynhadledd, cyfleusterau recordio o’r radd flaenaf ac ystafelloedd ymarfer, a stiwdio ddawns.

“Nid yw’r lleoliad yma yn cael ei ystyried fel ysgol neu goleg ac mae’n rhoi’r teimlad i bobl ifanc nad oes pwysau wrth iddynt ddysgu a chysylltu heb sylweddoli. Mae’r adeilad a’i staff yn gwneud hyn yn dda iawn gan nad ydynt yn barnu ac mae’n amgylchedd cyfeillgar – nid oes stigma i’r adeilad yma fel y sydd mewn sefydliadau addysgiadol.”

Grŵp Golygyddol Gwasanaethau Ieuenctid CBSBG.

Cysylltwch â’r Tîm

Samantha James


Cydlynydd Gweithrediadau

Alison John


Derbynfa / Cefnogaeth Weinyddol EVI

Darren Holborn


Gofalwr EVI

EVI

Church Street
Glyn Ebwy
NP23 6BE

Gwefan: www.ebbwvaleinstitute.org
Ffôn: 01495 70 8022
E-bost: info@ebbwvaleinstitute.org
facebook2   youtube

Oriau Agor
8:30 – 21:00 Llun i Gwener
8:30 – 1:00 Sadwrn
Wedi cau ar gyfer digwyddiadau preifat ar ddyddiau Sul