Model TYC: Llinell Gymorth PwyntTeulu

by Tania Russell-Owen | 12th Hyd 2017

Nid o dechnoleg yn unig ddaw arloesiad. Mae’n dod o ddealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn cysylltu gyda gwasanaethau. A sut i fod o werth i unigolyn.

Dyma’r dull sydd wrth galon ein model TYC.

Mae llinell gymorth PwyntTeulu yn darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd yng Nghymru. Mae cynghorwyr wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cynnig cymorth a chefnogaeth eiriolaeth o 9am i 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. Gan ddefnyddio Model TYC ProMo-Cymru, dyluniwyd y gwasanaeth i ymateb i anghenion teuluoedd yng Nghymru.

Sefydlu’r llinell gymorth PwyntTeulu

Sefydlwyd llinell gymorth PwyntTeulu ym mis Tachwedd 2015 yn dilyn lansiad y wefan ym mis Mai o’r un flwyddyn. Yn ystod yr ymgynghoriadau cychwynnol ar gyfer datblygiad y gwasanaeth PwyntTeulu cyfarfûm â theuluoedd ledled Cymru. Roedd mynediad Rhyngrwyd yn parhau i fod yn broblem i rai, roedd yn well ganddynt siarad gyda rhywun i gael y wybodaeth roeddent ei angen. Er y ffaith bod popeth yn symud tuag at fod ar-lein, mae cysylltiad gyda chleientiaid wedi dangos bod angen elfen o gyswllt dynol o hyd er mwyn i’r gwasanaeth yma fod yn un cynhwysol.

Roedd bwriad cychwynnol y llinell gymorth yr un peth â’r gwefan – sef darparu gwybodaeth a chyfeirio teuluoedd at y gwasanaethau perthnasol gallai helpu. Roedd ein defnyddwyr yn gallu cysylltu â’n cynghorwyr eiriolwyr hyfforddedig mewn sawl ffordd – ar y ffôn, neges testun a sgwrs ar-lein.

Gwybodaeth llinell gymorth ar gyfer erthygl Model TYC

Mae’r Model TYC yn caniatáu i ni gofleidio technolegau newydd ac addasu’n gwasanaethau i anghenion y cleientiaid. Mae’r llinell gymorth PwyntTeulu yn defnyddio technoleg canolfan galw yn y cwmwl sydd yn cynnig diogelwch a hyblygrwydd. Mae gennym system rheoli data pwrpasol i gofnodi achosion ar gyfer monitro a gwerthuso.

Helpu teuluoedd: Astudiaeth Achos

Achosion fel yr un yma o dad sydd yn poeni am ei ferch yn hunan niweidio. Cysylltodd â’r llinell gymorth gan nad oedd ei ferch yn mynd i’r ysgol oherwydd bwlio. Roedd ganddi broblemau pryder ac wedi ceisio lladd ei hun a niweidio ei hun yn y gorffennol. Poena’r tad na fyddai’n ennill cymwysterau TGAU a’r effaith gall hyn ei gael ar ei dyfodol. Roedd yn chwilio am gyngor addysg neu hyfforddiant i’w ferch yn ogystal ag unrhyw gefnogaeth iechyd meddwl oedd ar gael.

Darparodd y cynghorwr fanylion o asiantaethau addas fel yr awdurdod addysg leol. Trefnwyd galwad tair ffordd a chefnogwyd y tad trwy sgwrs gyda swyddog addysg a chafodd wybodaeth ddefnyddiol ar addysgu gartref. Awgrymodd y cynghorwr hefyd iddo gysylltu â SNAP Cymru am gefnogaeth bellach a’r llinell gymorth Young Minds i rieni. Darparwyd manylion y llinell gymorth Meic hefyd os yw ei ferch eisiau siarad gyda rhywun ei hun.

Addasu’r gwasanaeth i gyfarfod newidiadau

Roedd y gwasanaeth yn llwyddiant a’r nifer o gysylltiadau i’r llinell gymorth wedi cynyddu triphlyg ers ei lansiad ym mis Tachwedd 2015. Mae hyn wedi rhagori’r targedau gosodom. Ond gyda hynny daeth newid yn natur y galwadau hefyd, gydag angen mwy nag rhif yn unig. Yn yr ail flwyddyn roedd cynghorwyr yn delio gydag ymholiadau mwy cymhleth oedd yn gofyn am gyngor neu gefnogaeth eiriolaeth.

Gan ddefnyddio’r model TYC addaswyd i’r newid yma ac ym mis Tachwedd 2016 lledwyd y gwasanaeth i gynnwys cymorth ac eiriolaeth weithredol. Wrth fuddsoddi mewn arloesiad a thechnoleg caniatawyd i gynghorwyr drosglwyddo galwadau yn syth i linellau eraill yn hytrach nag rhoi rhif i’w alw yn unig. Roedd galwadau tair ffordd hefyd yn caniatáu i gynghorwyr aros ar y llinell os oedd angen cefnogi’r galwr trwy unrhyw sgyrsiau anodd, cymhleth neu emosiynol gyda gwasanaethau eraill.

Dyma yw ystyr arloesiad a’r model TYC. Amlygu sut i gysylltu a chefnogi gyda dull dynol a digidol.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru