Model TYC: Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr

by Andrew Collins | 26th Hyd 2017

Nid o dechnoleg yn unig ddaw arloesiad. Mae’n dod o ddealltwriaeth o’r ffordd mae pobl yn cysylltu gyda gwasanaethau. A sut i fod o werth i unigolyn.

Dyma’r dull sydd wrth galon ein model TYC.

Pan gysylltodd Mental Health Matters Wales a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn crybwyll eu prosiect eiriolaeth a chefnogaeth newydd, roedd yn amlwg mai’r Model TYC oedd y datrysiad gorau. A dyma fan cychwyn Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr.

Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr

Y syniad oedd creu tîm eiriolaeth a chefnogaeth leol i bobl Sir Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bwriad y prosiect oedd helpu pobl i ddod o hyd i’r gwasanaethau cymdeithasol addas, deall eu hopsiynau a’u helpu i ddeall eu sefyllfa.

Mae gan ProMo-Cymru brofiad sylweddol yn y maes yma yn barod. Rydym yn cynnal prosiectau eiriolaeth debyg, Meic a PwyntTeulu Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

Gan mai’r prosiect yma oedd y cyntaf o’i fath mewn unrhyw Sir yng Nghymru, nid oedd cyllideb enfawr i’w symud o syniad i gynnyrch gorffenedig. Yn ffodus, roedd ein tîm eisoes yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Yn ogystal â thîm Eiriolaeth bwrpasol, roedd gan ProMo-Cymru dîm Cyfathrebu a Rheolwyr Prosiect fu’n gyfrifol am adeiladu PwyntTeulu o’r cychwyn cyntaf.

Brandio Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr

Wrth weithio gyda staff Mental Health Matters datblygwyd brand a hunaniaeth i’r prosiect. Dyma ble defnyddiwyd arbenigedd ein dylunydd, Augusté Poškaité. Dyma hi yn esbonio’r broses…

“Mae pob manylyn yn bwysig wrth greu brand gweledol: dewis y lliw, y graffig a’r ffont. Mae angen sicrhau bod popeth yn helpu chi i gyflwyno’r neges yn gywir. Y cleient oedd yn gyfrifol am ddewis lliwiau brand Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr, sef dau wahanol las. Mae glas yn lliw smart ar gyfer y brand, yn enwedig gan fod Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn llinell gymorth eiriolaeth a gwybodaeth. Mae’n cael effaith seicolegol cyffredinol: ffydd, sefydlogrwydd a threfn. Mae glas hefyd yn cael effaith o dawelu.

“Roeddwn eisiau atgyfnerthu’r arwyddocâd gweledol gyda’r gwasanaethau darparir gan y prosiect, wrth wneud y logo edrych yn lân, siarp a syml – dim byd rhy flêr. Penderfynom ddefnyddio lliwiau glas ar gyfer y cefndir a chael logo “celf llinell” gwyn glân.

“Y syniad y tu ôl i’r dyluniad oedd pobl yn sefyll gyda’i gilydd yn helpu’i gilydd. Roeddwn eisiau creu logo fydda’n rhoi synnwyr o gymuned ofalgar fydda’n dweud ‘nad wyt ti ar ben dy hun ac rydym yn gwrando’. Defnyddiais siapiau llinell syml oedd yn cynrychioli pobl. Yna, gosodais i nhw i edrych fel pobl law yn law.

“Roedd rhaid i’r enw “Llais a Dewis” Pen-y-bont ar Ogwr ffitio’n dda gyda’r logo celf llinell hefyd. Er mwyn creu pwysau gweledol sy’n cyseinio, penderfynais ddefnyddio teipograffeg syml a ffont llinell denau.”

Gwefan Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr

Erbyn mis Hydref 2016 roedd mwy o ddefnydd o we symudol nag gwe ar gyfrifiadur am y tro cyntaf yn y DU. Golygai hyn bod pobl bellach yn dewis defnyddio’u ffôn clyfar i edrych ar wefannau, yn hytrach nag chyfrifiadur neu liniadur. Mae hyn yn her fawr i ddatblygwyr gwe. Mae angen creu gwefannau sydd yn hygyrch ond hefyd rhai gellir eu defnyddio ar amrywiaeth o ddyfeisiau gwahanol.

Ar ben hynny, ym mis Ebrill 2015 cyhoeddodd Google na fyddant yn cyfeirio chwiliadau i wefannau nad oedd yn barod ar gyfer dyfeisiau symudol.

O ystyried hyn i gyd, roedd yn hanfodol bod gwefan Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn ymatebol. Penderfynom ddefnyddio’r fframwaith Bootstrap i gyflawni hyn. Dewiswyd dyluniad un tudalen hefyd gan mai dyma’r ffordd orau i arddangos yr holl wybodaeth yn glir ac mewn arddull hygyrch hawdd yn ein barn ni.

Mae hyn yn gyson gyda holl frandio Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n sicrhau bod y defnyddiwr yn cael yr un profiad ac adnabyddiaeth pan ar y wefan, pa bynnag ddyfais sy’n cael ei ddefnyddio.

Yn ogystal â bod yn ymatebol, mae’r wefan yn fach mewn maint felly mae’n llwytho’n sydyn. Awgrymodd astudiaeth ddiweddar Google bod 53% o ddefnyddwyr dyfeisiau symudol yn gadael gwefannau sydd ddim yn llwytho o fewn 3 eiliad. Felly rydym yn ymwybodol bod cyflymder llwytho sydyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn ymweld â’r dudalen.

Prif nodwedd y wefan, fel crybwyllwyd yng nghyfarwyddiadau’r cleient, oedd cyfeirio ymwelwyr i’r gwasanaeth llinell gymorth aml bwynt yn hawdd. Wrth ystyried hyn, rhoddwyd y manylion neges testun, galwadau a negeseuo brys fel rhan o ddyluniad pennawd y wefan.

Ymwelwch â’r wefan nawr ar llaisadewispenybontarogwr.cymru. Neu gallech chi ymweld â’r wefan Saesneg ar bridgendvoiceandchoice.cymru.

Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr Dwyieithog

Mae Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw at Bolisi Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Mae popeth yn ProMo-Cymru yn cael ei wneud yn ddwyieithog ac mae gennym dîm cyfieithu mewnol. Roeddem yn gallu defnyddio hyn wrth greu’r prosiect Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr.

Monitro llwyddiant Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr

Fel y gwyddai pawb, mae llwyddiant prosiect yn bwysig iawn – yn enwedig pan ddaw at ariannu. Yn ffodus, roeddem yn gallu darparu’r cleientiaid gyda dau declyn allweddol i fonitro’u cynnydd.

Mae gan ein teclyn rheoli cysylltiad aml fan cyswllt, Ymdrin â Galwadau, declyn dadansoddi ei hun. Mae Ymdrin â Galwadau yn caniatáu i chi weld ystadegau gwir amser a hanesyddol ar gyfer yr holl gysylltiadau i’ch gwasanaeth llinell gymorth. Mae’n hawdd segmentu’r data yma i weld sut cafodd y cyswllt ei wneud – ar y ffôn, neges testun neu negeseuo brys. Mae posib hidlo yn ôl dyddiad a nifer y negeseuon hefyd.

Y teclyn arall ydy Google Analytics. Mae hwn wedi’i osod ar ochr gefn y gwefan Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n rhoi data cywir cyfoes am wybodaeth ymwelwyr. Gellir darganfod niferoedd y bobl sydd wedi ymweld â’ch gwefan a sut mae ymwelwyr wedi dod o hyd i chi (trwy chwiliad Google, cyfryngau cymdeithasol, cyfeirio o wefan arall, neu yn syth o URL). Mae posib darganfod hefyd pa ddyfais defnyddiwyd (ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur) yn ogystal â bron i bopeth arall gallech chi fod angen ei wybod!

Bydd y data yma yn hanfodol i Mental Health Matters pan ddaw at brofi llwyddiant y prosiect wrth wneud cais am ariannu pellach.

Rydym yn falch iawn o’r cynnyrch cyflwynwyd i’r cleient Gan ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd yn ein tîm a gweithio o fewn briff y prosiect, rydym wedi creu datrysiad yn canolbwyntio ar y cwsmer, gyda brandio proffesiynol a gwefan hygyrch i’r defnyddiwr. A hyn i gyd ar gyllid tynn.

Mae’r Model TYC wedi bod wrth galon yr holl broses, o’r dyluniad i’r cynhyrchiad i’r trosglwyddiad. Dyma yw ystyr arloesiad a’r model TYC. Amlygu sut i gysylltu â chefnogi gyda dull dynol a digidol.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru