Meic: Mae 76% o blant a phobl ifanc yn teimlo nad yw oedolion yn cymryd eu barn o ddifrif

by Marco Gil-Cervantes | 23rd Meh 2017

Mae llai nag chwarter o bobl dan 25 oed yng Nghymru yn teimlo bod eu barn yn cael ei gymryd o ddifrif. Datgelwyd y wybodaeth yma fel rhan o arolwg cyfredol Meic. Meic yw’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Awgrymir canlyniadau’r arolwg bod plant a phobl ifanc yn diffyg gwybodaeth i herio’r rhai sydd ddim yn parchu eu hawliau neu safbwyntiau. Mae hwn yn hawl sy’n cael ei amlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

Heddiw, mae Meic yn cyhoeddi ei ymgyrch newydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth hawliau ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio ar 6 Gorffennaf 2017 gyda ffilm ryngweithiol ar arddull gêm fideo yn cael ei ryddhau. Bydd y fideo yn rhoi grym i blant a phobl ifanc i gael mynediad i wybodaeth gywir am eu hawliau. Bydd hefyd yn rhoi’r hyder iddynt i ddefnyddio’r rhain yn eu bywydau.

Rhoddir cefnogaeth a gwybodaeth gyfreithiol ar gyfer y fideo gan yr Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc. Dywedodd:

“Mae ymchwil yr Arsyllfa yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn ymwybodol am gyfreithiau sydd yn berthnasol i’w bywydau a’u profiadau bob dydd, ac mae yna fwlch enfawr yn hygyrchedd a chywirdeb gwybodaeth gyfreithiol. Rydym yn falch iawn o gael helpu Meic i fwrw ati i lenwi’r bwlch yma, trwy gyfuno eu talent greadigol â’n harbenigedd cyfreithiol a hawliau dynol.”

Dywedai Steph Hoffman, Pennaeth Meic:

“Mae’r arolwg yma yn dangos nad yw’r mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael y sylw sydd ei angen. Mae cyfrifoldeb ar bawb i wneud mwy i amddiffyn a mwyhau eu llais ac i ymateb i’r hyn sydd yn eu poeni. Mae’n hollbwysig ein bod yn rhoi’r offer cywir iddyn nhw i ddeall eu hawl i wrandawiad a chael eu cymryd o ddifrif. Bydd y fideo yma yn eu cyfarparu gyda gwybodaeth am eu hawliau. Bydd hyn, yn ei dro, yn rhoi’r grym iddynt i stopio, newid neu wella eu sefyllfa.”

Dilynwch yr ymgyrch fideo o 6 Gorffennaf 2017 ar dudalen Facebook Meic (@meic.cymru), Twitter (@meiccymru), ac Instagram (@meic.cymru).

Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru, hyd at 25 oed, gysylltu â Meic o 8am – hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn trwy neges sydyn, neges testun, ar y ffôn neu e-bost.