Instant Articles ac AMP: Datrysiadau i’r Trydydd Sector?

by Tania Russell-Owen | 28th Awst 2017

Mae’r we wedi bod yn ddyfeisiau symudol gyntaf ers sbel bellach. Ond yn aml yn y trydydd sector, nid yw gwefannau wedi’u dylunio ar gyfer pori symudol. Dyma ble gall ‘Instant Articles’ Facebook ac ‘AMP’ Google helpu.

Cafodd ‘AMP‘ ac ‘Instant Articles’ Facebook eu creu er mwyn llwytho cynnwys yn gyflymach ar ffonau pobl o gymharu â’ch tudalen we arferol.

Yn y trydydd sector, gallem fod yn euog o gymryd dull cyfrifiadur yn unig pan ddaw at wefannau. Ond mae’r mwyafrif o’n cleientiaid a’n defnyddwyr gwasanaeth yn symudol gyntaf. Pam? Am fod pawb yn, ers i bori symudol gymryd drosodd o draffig cyfrifiadurol yn hwyr yn 2016. Dyw’r gwahaniad digidol ddim mor amlwg ac eang â hynny. Yn ystod ein sesiynau grŵp ac ymchwil ar gyfer PwyntTeulu, darganfuwyd defnydd eang o ffonau clyfar ymysg pob sector cymdeithasol. Roedd dros 76% o bobl yn defnyddio ffôn clyfar. Ac mae 58% o oedolion yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd drwy ffôn symudol.

Ffynhonnell: Ofcom Adroddiad ar y Farchnad Cyfathrebu 2017: Cymru

Ond wrth i ni eistedd o flaen ein cyfrifiaduron yn ein swyddfeydd, ydym ni’n meddwl digon am sut bydd ein defnyddwyr gwasanaeth yn cael mynediad i’n gwybodaeth?

Pam dylid ystyried ‘Instant Articles’ ac ‘AMP’?

Yn ôl Kissmetrics, “mae 47% o ddefnyddwyr yn disgwyl i dudalen gwe lwytho mewn dau eiliad neu lai.” Mae’r wefan arferol yn cymryd 5 i 6 eiliad i lwytho. Ac am bob eiliad bydd eich tudalen yn ei gymryd i lwytho, y mwy o bobl sydd yn taro ‘yn ôl’ ar y porwr a ddim yn edrych ar eich cynnwys. Mae ‘Instant Articles’ ac ‘AMP’ yn lleihau’r amser llwytho yn sylweddol. Mae’r ddau blatfform yn cynnig cynllun glan wedi’i ddylunio yn arbennig ar gyfer dyfeisiau symudol.

Y canlyniad ydy mwy o ymrwymiad a chyrhaeddiad. Mae Google yn blaenoriaethu ac yn hyrwyddo cynnwys ar ‘AMP’ o fewn ei chwiliadau dros dudalennau gwe symudol arferol. Mae Facebook hefyd yn honni bod ‘Instant Articles’ yn cael ei rannu 30% yn fwy ar ei blatfform nag tudalennau gwe symudol arferol.

Pam nad dylid ystyried ‘Instant Articles’ ac ‘AMP’?

Ydy niferoedd ymwelwyr yn bwysig i chi? Ydy eich RBA (Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau) yn canolbwyntio arnynt? Yna efallai hoffech osgoi ‘Instant Articles’ ac ‘AMP’. Mae’r cynnwys yn cael ei ddal ar Facebook a Google yn hytrach nag ar eich gwefan. Mae hyn yn gwneud iddynt lwytho’n sydyn iawn, ond nhw sydd yn cadw’r traffig. Os ydych chi angen i bobl ymweld â’ch gwefan, yna efallai hoffech ganolbwyntio ar SEO a lliflinio eich gwefan symudol yn lle hynny. Ond os mai’r nod ydy cael eich gwybodaeth allan at eich cynulleidfa yna mae hynny’n stori arall.

Peth arall i’w ystyried ydy gallu oherwydd amser. Mae gan bawb lawer o waith yn barod yn y trydydd sector, a bydd defnyddio’r llwyfannau yma yn ychwanegu tasg arall i’r holl broses golygyddol. Ydy’r buddiannau o well ymrwymiad yn gorbwyso’r adnoddau ychwanegol fydd ei angen?

Bydd yn cael effaith hefyd ar eich gwybodaeth ddadansoddol os ydych chi’n defnyddio ‘AMP’. O gymharu â’r twll cwningen o ddata gallech chi gael mynediad iddo drwy Google Analytics, dim ond mynediad i wybodaeth cyfyng iawn sydd â ‘AMP’. Ac mae’r ddau lwyfan yn dioddef o dudalen sy’n edrych yn generig a heb ei frandio. Efallai bod hyn yn mynd law wrth law gyda lliflinio tudalennau gwe ar gyfer amser llwytho sydyn, ond mae’n anoddach gadael argraff amlwg mai eich cynnwys chi sydd ar y llwyfannau yma.

Mae peth feirniadaeth wedi bod o ‘AMP’ pan ddaw at ryddid gwe. Yn hytrach nag defnyddio HTML, mae’r llwyfannau yma wedi’u hadeiladu ar god wedi’i addasu, ac mae’r cynnwys ar ei gwefan nhw ac nid un chi. Mae rhai yn poeni ein bod yn rhoi gormod o reolaeth i’r cwmnïoedd yma sydd yn rymus yn barod.

Os yw’r syniad yn parhau i apelio yna pa un dylid dewis?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Facebook ei fod am wneud ‘Instant Articles’ yn gytûn â ‘AMP’. Dylid hyn esmwytho unrhyw broblem diffyg amser ac mae’n ei wneud yn opsiwn mwy deniadol, gan y gallech chi gyfansoddi gyda chynllun ‘Instant Articles’ a chopïo yn hawdd drosodd i lwyfannau eraill os oes angen. Mae profion diweddar hefyd yn awgrymu bod ‘Instant Articles’ yn llwytho’n fwy sydyn nag ‘AMP’.

Felly ymddangosai fel mai ‘Instant Articles’ ydy’r dewis amlwg. Ond nid ellir chwilio ‘Instant Articles’ trwy chwiliad gwe nac unrhyw wefannau neu raglenni trydydd parti. Dim ond Facebook. Os yw’ch cynulleidfa yno a’ch bod yn cysylltu drwy wefannau cymdeithasol yna ewch amdani. Os ydych chi’n cysylltu drwy chwiliadau yn hytrach nag gwefannau cymdeithasol, yna a ddylid cyflwyno adnoddau i lwyfan o fewn rhaglen Facebook yn unig? Efallai bydd ‘AMP’ yn eich gweddu’n well.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Ceir manteision ac anfanteision clir i ddefnyddio ‘Instant Articles’ ac ‘AMP’ ac mae’n rhaid i chi ddadansoddi eich anghenion ac anghenion defnyddwyr eich gwasanaeth.

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru

Credyd llun clawr:instantarticles.fb.com