Hyfforddiant Ffilm: Creu Fideo Cerddoriaeth

by Tania Russell-Owen | 5th Gor 2018

Yn ddiweddar bu ProMo-Cymru yn datblygu cwrs hyfforddi ffilm i gysylltu gyda 25 o bobl ifanc anodd eu cyrraedd yng Nghaerdydd. Y bwriad oedd datblygu cwrs sydd yn adlewyrchu diddordebau’r bobl ifanc, sef cerddoriaeth rap a hip hop. Dros gyfnod o bedwar mis, dysgwyd iddynt sut i greu fideo cerddoriaeth eu hunain. Roedd hyn yn gyfle i arddangos eu talent mewn ffordd ddeniadol.

Cynhaliwyd y cwrs rhwng mis Tachwedd 2017 a Chwefror 2018 gyda chyllideb Ffilm Cymru a Chanolfan Datblygiad Cymunedol Riverside (SRCDC).

Hyfforddiant Sgrin Werdd

I greu fideos cerddoriaeth a ffilmiau eraill ar gyllid isel, dysgwyd iddynt sut i weithio gyda sgrin werdd. Dysgwyd am yr offer ffilmio angenrheidiol a’r offer sgrin werdd. Fel rhan o’r hyfforddiant, dysgwyd sut i osod set ffilmio, defnyddio goleuadau a chefndiroedd. Helpwyd i osod y camera a sut i’w gysylltu i’r cyfrifiadur. Dangoswyd sut i ychwanegu cefndiroedd gwahanol a sut i adnabod a marcio’r ardaloedd i berfformio o flaen y sgrin werdd.

Cymerwyd dull anrhaddodiadol i’r hyfforddiant, yn cael ei arwain gan bobl ifanc. Roedd yna elfen o risg i hyn o ystyried sawl rhwystr oedd yn wynebu’r bobl ifanc eu hunain. Roedd ein dull yn addasadwy ac yn arloesol er mwyn diddori’r bobl ifanc a sicrhau eu bod yn buddio o’r cwrs. Ac roedd yn amlwg eu bod wedi’u hysbrydoli ac mae miloedd wedi gwylio’r ffilmiau ar-lein yn barod.

Gweithio mewn partneriaeth

“Roedd ProMo-Cymru yn annog gweithio mewn partneriaeth wrth sicrhau ein bod yn targedu pobl ifanc oedd eisoes mewn darpariaethau lleol,”meddai Dayana Del Puerto, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Amlgyfryngau ProMo-Cymru.

“Bûm yn gweithio’n agos iawn gyda phobl ifanc o SRCDC. Cynhaliwyd sesiynau yn eu hadeilad ac yn y Riverside Warehouse.”

Roedd y bobl ifanc fu’n cymryd rhan yn dod o ardaloedd Riverside, Grangetown a Butetown yng Nghaerdydd.

Anogwyd y prosiect ddysgu pellach ac roedd yn cysylltu gyda chynulleidfa o bobl ifanc du a lleiafrifoedd ethnig. Roedd sawl un yn disgyn o fewn y categori NEET. Cynigwyd cymhwyster achrededig Agored Cymru ac roeddem yn helpu cyfeirio’r bobl ifanc i gyfleoedd addysg bellach ac i sefydliadau eraill oedd yn gweithio i amcanion y rhaglen Cyfuno/Arloesi.

Perchnogaeth

“Dyw llawer o’r bobl ifanc ddim wedi mynychu’r math yma o hyfforddiant o’r blaen,” eglurai Dayana.

“Dyma’r tro cyntaf iddynt helpu trefnu, gosod a chyfarwyddo ffilm. Roedd y gwahaniaeth yn eu hyder yn amlwg ar ôl caniatáu iddynt gymryd perchnogaeth o’r hyn yr oeddent yn ei gynhyrchu.”

Un o’r bobl ifanc fu’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant oedd Sonny Double 1, sydd yn perfformio ochr yn ochr â’r band Astroid Boys o Gaerdydd. Er ei fod wedi gwneud ychydig o ffilmio proffesiynol, nid oedd wedi cael cyfle i ddysgu sut i osod set ffilmio, goleuo’r olygfa a rhagwylio’r hyn recordiwyd.

“Roedd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn ac mae wedi fy annog i greu mwy o fideos am ein cymuned leol,” meddai.

Symud ymlaen

Roedd Joel Britton, un o weithwyr ieuenctid y Riverside Warehouse, yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant hefyd.

“Roedd llwyddiant yr hyfforddiant wrth gysylltu gyda’r bobl ifanc yn amlwg. Roeddwn yn annog holl bobl ifanc y gymuned i fynychu,” eglurai Joel.

“Rydym yn awyddus i barhau i greu ffilmiau ac felly’n ystyried buddsoddi mewn sgrin werdd i’r ganolfan. Bydd hwn hefyd yn canmol ein stiwdio recordio.”


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru