Gwrando ar Farn Tenantiaid

by Tania Russell-Owen | 25th Hyd 2018

Mae ProMo-Cymru yn falch o gael gweithio ar ddau brosiect newydd gyda Chymdeithasau Tai arweiniol Cymru a’u tenantiaid. Byddem yn gweithio gyda Cadwyn a Cartrefi Cymoedd Merthyr. Mae nod craidd y ddau yn adlewyrchu gwerthoedd ProMo-Cymru a’n gwaith i gysylltu, cyfathrebu a gosod defnyddwyr yng nghalon gwasanaethau gyda sgyrsiau a thrawsffurfiad digidol.

Mae Cymdeithasau Tai ledled Cymru yn adolygu’r ffordd maent yn cysylltu ac yn cynnwys tenantiaid ar hyn o bryd. Maent yn gwneud hyn mewn cyfnod parhaus o lymder a chyflymder sylweddol newid digidol. Bu Mike Owen, Prif Weithredwr Cartrefi Cymoedd Merthyr, yn siarad yn bositif mewn erthygl dros yr haf ar yr effaith mae llymder yn ei gael ar deuluoedd sydd yn llwgu.

Mae ei alwad i flaenoriaethu pobl dros bolisïau yn un rydym yn gobeithio adlewyrchu yn ein gwaith â’n gilydd. Bydd ProMo-Cymru yn adnabod y pethau mae tenantiaid yn ei werthfawrogi wrth ryngweithio gyda Cartrefi Cymoedd Merthyr. Byddem yn defnyddio’r sgyrsiau yma i amlinellu sut gellir cryfhau’r gwerth cymdeithasol yma.

Llais y bobl

Mae ProMo-Cymru yn credu mai’r ffordd gorau i gyfathrebu gyda phobl ydy wrth osod eu llais yng nghalon gwasanaethau. Dyma fwriad ein gwaith gyda Cadwyn, eu tenantiaid a’u staff, gan ddefnyddio profiad helaeth pawb dan sylw. Ers cychwyn y gwaith yma, rydym wedi gweld budd i’r dull agored yma o ddysgu gan Cadwyn. Maent yn rhoi grym i’r staff i rannu profiadau positif a negyddol.

Mae Cadwyn yn bwriadu defnyddio trawsffurfiad digidol ac archwiliad i greu gwasanaethau sydd yn fwy ymatebol i anghenion tenantiaid. Mae’r broses yma wedi cychwyn yn barod wrth iddynt greu app. Bwriad hwn ydy gwneud i dai cymdeithasol gyd-fynd â disgwyliadau tenantiaid o wasanaeth y 21ain ganrif. Adlewyrchir hyn hefyd yn agweddau’r staff i drawsffurfiad digidol gyda Swyddog TG Cadwyn, Neil Tamplin, yn cael ei gyhoeddi fel un o Arweinwyr Technoleg Gorau Inside Housing 2018.

Cryfhau Gwasanaethau

Gyda’r gwaith ymgysylltu a chyfathrebu, byddem yn gweithio gyda thenantiaid i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Wrth ddefnyddio’r sgyrsiau, byddem yn adolygu ac yn cynnig awgrymiadau i symleiddio systemau cymhleth sydd yn gallu bod yn rhwystr weithiau i’r defnyddwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni’r gwaith yma er budd y tenantiaid a’n cleientiaid. Bydd yr hyn rydym yn ei ddysgu o’r prosiectau yma yn parhau i gryfhau ein gwasanaethau, yn cefnogi ac yn rhoi grym i bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau.

Os hoffech siarad gyda ProMo-Cymru am ymgysylltiad, cyfathrebiad a thrawsffurfiad digidol, cysylltwch â nathan@promo.cymru

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl gwaith ieuenctid digidol

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru