Gwasanaeth Eiriolaeth Newydd Caerdydd a’r Fro

by Tania Russell-Owen | 15th Awst 2018

Mae ProMo-Cymru wedi datblygu llwybr a model yn darparu gwasanaeth eiriolaeth newydd i Gaerdydd a’r Fro. Mae’n cynnig cefnogaeth i ddinasyddion sydd yn derbyn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cefnogol.

Advocacy - CVAG logo

Datblygwyd Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro (PECF) i gefnogi dinasyddion Caerdydd a’r Fro i gael llais a dewis pan ddaw at wasanaethau cefnogol gofal cymdeithasol, yn benodol fel y diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn cyflwyno PECF

Mae’r gwasanaeth yn cynnig llinell gymorth ar y ffôn i drigolion dros 18 oed sydd efallai angen cymorth i gael eraill i glywed eu barn, i fod mewn rheolaeth ac/neu ddeall eu hopsiynau pan ddaw at y gwasanaethau derbynnir (neu credant eu bod angen) yn ymwneud â chefnogaeth gofal cymdeithasol. Gall gofalwyr ac ymarferwyr gysylltu â’r gwasanaeth os oes ganddynt unrhyw bryderon am unigolyn sydd yn derbyn yr uchod.

” Roedd ein profiad yn datblygu ac yn trosglwyddo gwasanaethau gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth ar-lein a digidol, ynghyd â’n henw da yn gwerthfawrogi hawliau pobl, yn ein gwneud yn ddewis perffaith i ddatblygu a throsglwyddo gwasanaeth newydd ar gyfer Caerdydd a’r Fro.

Roeddem yn gweithio’n agos iawn gyda Chyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Y nhw gomisiynwyd ProMo-Cymru i ddatblygu a throsglwyddo’r gwasanaeth newydd yma.”

Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol ProMo-Cymru.

Mae Age Connects, Advocacy Matters a Diverse Cymru yn bartneriaid pwysig yn y datblygiad yma.

Gellir cysylltu â’r llinell gymorth am ddim ar 0808 801 0577 i gael gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth. Mae PECF yn agored dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb – 5yh. Mae’n cael ei staffio gan dîm o Gynghorwyr Eiriolwyr proffesiynol medrus iawn ar y llinell gymorth.

Sut gall PECF helpu

Mae’r Tîm Llinell Gymorth yn gallu helpu:

– Sefydlu’r hyn sydd yn bwysig i’r galwr. Gwneud synnwyr o’u sefyllfa a’u hanghenion. Archwilio’r opsiynau yn ôl unrhyw anghenion gofal/cefnogaeth gymdeithasol a nodwyd.
– Deall a chael mynediad i wybodaeth sydd yn berthnasol i’w sefyllfa. Deall sut i lywio unrhyw brosesau cynllunio, adolygu a gwneud penderfyniadau.
– Cyrraedd y cyrchnod mwyaf addas mor sydyn ac effeithlon â phosib, bod hynny drwy gynrychiolaeth uniongyrchol neu gyfeirio/arwyddbostio i eiriolaeth broffesiynol annibynnol wyneb i wyneb, eiriolaeth arall, neu wasanaethau cefnogol eraill.

Y buddiannau

Mae llwybr a model Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yn unigryw; yn ogystal â helpu’r unigolyn, mae yna fuddiannau eraill hefyd:

– mwy o wybodaeth, a gwybodaeth well, am angen, galwad, canlyniadau
– hunan effeithiolrwydd gwell wrth hwyluso gwelliannau mewn dealltwriaeth, gwybodaeth a hyder.
– dargyfeirio o wasanaethau statudol os nad oes angen
– hyrwyddo gwell dealltwriaeth, a dealltwriaeth ehangach, o eiriolaeth
– cysylltu gyda chynulleidfa ehangach fel bod mwy o ofyn eiriolaeth ble mae angen
– hwyluso gweithio cydweithiol a rhwydweithio ymysg darparwyr gwasanaethau eirioli, gyda’r canlyniad o wella llwybrau, cyrchnodau, a chanlyniadau i unigolion

Os hoffech wybodaeth bellach am Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro ymwelwch â’r wefan, e-bostiwch socialaction@promo.cymru neu galwch ProMo-Cymru ar 02920 462 222.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru