Enillwyr Gwobr Technoleg Er Budd

by Tania Russell-Owen | 17th Hyd 2018

Mae ProMo-Cymru yn falch iawn o fod yn fuddugol yng nghategori Technoleg Er Budd, wedi noddi gan Reason Digital, yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol 2018 Canolfan Cydweithredol Cymru.

Mae’r wobr yn dathlu gweithgareddau masnachu llwyddiannus ProMo-Cymru, yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus gyda chyfathrebiad, ymgysylltiad a thrawsffurfiad digidol.

Dywedai Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Ganolfan Gydweithredol a’i noddwyr am y wobr hon. Mae’n cydnabod y balchder, uchelgais a’r ffocws tîm sydd ynghlwm â throsglwyddo’r hyn sydd yn addas ac yn gywir i bobl.”

Enillwyr Gwobr Technoleg er budd

Cefnogi eraill

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ProMo-Cymru wedi gweithio gyda dwsinau o gleientiaid o’r trydydd sector a’r sector gyhoeddus. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau wedi’i selio ar y sgiliau datblygwyd yn y 15 mlynedd o drosglwyddo prosiectau digidol.

Rydym wedi cefnogi sefydliadau cenedlaethol fel y WCVA, Shelter Cymru ac Anabledd Cymru gyda newid digidol, brandio ac ymgyrchoedd cyfathrebu. Wrth weithio gyda sefydliadau hanfodol llai fel Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon (South Riverside), yn eu cefnogi i gysylltu â phobl ifanc yn ddigidol.

Edrych tuag at y dyfodol

Cyn hir, byddem yn cychwyn ein gwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy’r ‘Rhaglen Arloesi er mwyn Arbed’ YLab Nesta ac yn gweithio gyda Chymdeithasau Tai ledled Cymru. Y gobaith ydy gweithio gyda’n gilydd i glywed lleisiau pobl i gyflawni newid positif a gwasanaethau gwell.

Rydym yn credu’n gryf bod yna dalent creadigol yng Nghymru i ddefnyddio digidol i’w llawn botensial ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Mae ProMo-Cymru wedi bod yn ffodus iawn i gael gweithio gyda chleientiaid a phartneriaid anhygoel yn cyflawni gwaith ysbrydoledig yn lleol ac yn genedlaethol. Rydym yn edrych ymlaen at bethau cyffrous yn 2019 a helpu sefydliadau Cymru i gyflawni mwy yn ddigidol, ac yn well.

Os hoffech drafod ymgysylltiad digidol neu drawsffurfiad digidol yna cysylltwch â arielle@promo.cymru

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl gwaith ieuenctid digidol

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru