ProMo-Cymru
Y Cwrt
17 Stryd Bute y Gorllewin
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5EP

 

Oriau Agor Y Swyddfa

09:00 – 17:00 Llun – Gwener
Wedi cau ar benwythnosau a gwyliau’r banc

Gweler ar Fapiau Google


Cyrraedd Yma

Mae’r adeilad wedi’i leoli ar ben llwybr sydd yn rhedeg rhwng siop barbwr Jack Bourne a siop pryd parod Roscoes BBQ Grill.

Mynediad: Y ffordd hawsaf i gyrraedd Bae Caerdydd o’r M4 ydy defnyddio’r A4232 (Ffordd Cyswllt Caerdydd) o Gyffordd 33.

Parcio: Mae parcio ar y stryd yn brin iawn ym Mae Caerdydd, ond os ydych chi’n ddigon ffodus i gael lle yna mae’r awr gyntaf ar Stryd Bute y Gorllewin am ddim.

Parking charges for West Bute Street on Contact us page

Fel arall byddem yn awgrymu defnyddio Maes Parcio Havannah Street (tua 8 munud o gerdded).

Trên: Yr orsaf drenau agosaf yw Bae Caerdydd ac mae gwasanaeth rheolaidd (tua phedwar trên yr awr) o orsaf Heol-y-Frenhines i’r Bae. Fel arall mae prif linell Gorsaf Ganolog Caerdydd tua 15-20 munud o gerdded i lawr Dumballs Road neu Stryd Bute. Os yw hyn yn hy bell i gerdded, gallech chi neidio ar fws #6 (Baycar), sydd yn gadael o gefn yr orsaf drenau a dadlwytho ger Canolfan Mileniwm Cymru.

Bws: Mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaeth da ym Mae Caerdydd, gan gynnwys gwasanaethau #1, #2, #6 (Baycar), #7 a #8. Mae N.A.T. hefyd yn rhedeg gwasanaeth X8 sydd yn mynd o Thornhill i Fae Caerdydd. Mae Traveline Cymru yn ddefnyddiol iawn os ydych chi’n chwilio am siwrne bws neu drên.

Beicio a cherdded: Mae ein swyddfeydd wedi’u lleoli ar waelod y Daith Taf. Mae gan Sustrans fapiau da i feicwyr.

Tacsi: Capital Cabs – 029 20 777 777      Dragon Taxis – 029 20 333 333