Cynnydd Fideo a Fideo Byw

by Andrew Collins | 5th Ebr 2018

Yma yn Promo-Cymru rydym wedi bod yn edrych ar dueddiadau cyfryngau a marchnata digidol ar gyfer 2018. Yn yr ail o dair erthygl mae Andrew Collins, ein swyddog Cyfathrebu a Phartneriaethau, yn edrych ar boblogrwydd fideo, yn enwedig y cynnydd mewn fideo byw.

Efallai nad yw hyn yn syndod, ond mae fideo wedi bod yn boblogaidd iawn ar-lein ers sbel. Bydd y poblogrwydd yma yn parhau yn 2018, gyda niferoedd gwylio yn cynyddu unwaith eto.

Rhoi hwb i Fideo Byw

Nid yw poblogrwydd fideo ar-lein yn beth newydd, ond mae’n debyg y bydd gwthiad mawr tuag at fideo byw yn 2018. Pan ddaw at fideo, mae Facebook yn gwybod mai YouTube yw’r lle i fynd, felly maent yn gwneud popeth bosib i geisio curo’r gystadleuaeth (sy’n eiddo i Google) i’r farchnad fideo byw.

Yn eu brwdfrydedd i hyrwyddo hyn, llynedd roedd Facebook yn defnyddio hysbysebon deledu i hyrwyddo’r nodwedd newydd yma.

Ymunwch

Ydych chi’n amheus am ymuno ym mhoblogrwydd fideo byw? Yn ei chael yn anodd gweld y buddion? Un peth i’w ystyried ydy mai dyma mae pobl eisiau. Mae’r niferoedd sydd yn gwylio fideos yn codi tra bod y nifer sydd yn darllen blogiau yn gostwng. Mae pobl yn awyddus i lyncu wrth wylio. Mae arolwg gan Wyzowl (The State of Video Marketing 2018) yn dangos bod 72% o ddefnyddwyr yn dewis fideo pan gynigir yr un cynnwys ar ffurf testun neu fideo.

Yn bwysicach fyth, mae Facebook yn rhoi blaenoriaeth i gynnwys Byw. Felly mae posib i chi drechu’r wasgfa Cyrhaeddiad Organig (edrychwch ar ein herthygl flaenorol) wrth ddenu niferoedd mawr gyda’ch fideos Byw.

Sut i gymryd rhan

Bydd angen i chi ddefnyddio llechen neu ffôn clyfar, ond mae’n eithaf syml ar y cyfan.

Yr unig drafodaeth yma ydy gwybod pryd i ‘fynd yn Fyw’. Yn ddelfrydol, dylid gwneud hyn pan fydd gennych chi gynnwys diddorol i’w rannu gyda phobl, fel pan fyddech chi allan yn cyfarfod pobl neu’n cynnal digwyddiad. Efallai gallech chi gynllunio rhywbeth mwy sylweddol fel rhan o’ch ymgyrch nesaf.

Defnyddiwn yr RNLI fel esiampl. Mae’r RNLI yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i’w hymuno mewn gweithrediadau achub mewn argyfwng. Bydd gwylio ffrwd byw o sesiwn hyfforddi yn wych, yn rhoi’r cyfle i chi – y gwyliwr – i weld sut beth ydy bod yn rhan o’r tîm.

Neu, am esiampl ychydig llai cyffrous, beth os fyddech chi’n hysbysu am swydd newydd? Fel rhan o’ch hysbyseb swydd, dywedwch wrth yr ymgeiswyr eich bod yn cynnal ffrwd byw yn rhoi taith o’r swyddfa. Gallant weld ble rydych chi’n gweithio a chael cipolwg o’u darpar gyflogwr. Gan fod gwylwyr yn gallu gadael sylwadau ar y fideo (gallech chi actifadu neu ddiffodd hyn), gallech chi orffen gyda sesiwn holi fyr gyda’r panel, yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr i ddarganfod mwy cyn gwneud cais.

Syml, ond effeithiol iawn.


Mae’r erthygl yma yn rhan o gyfres o erthyglau yn edrych ar dueddiadau cyfryngau a marchnata digidol ar gyfer 2018. Rydym wedi edrych ar Ddirywiad Cyrhaeddiad Organig Facebook eisoes, a’r tro nesaf byddem yn edrych ar Boblogrwydd Cynorthwywyr Digidol. Cadwch lygaid craff ar ein gwefan.

Os ydych chi wedi mwynhau’r erthygl hon ac eisiau gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yma yn ProMo-Cymru, edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru