Poblogrwydd Cynorthwywyr Digidol a Chatbots

by Andrew Collins | 8th Meh 2018

Yma yn ProMo-Cymru rydym wedi bod yn edrych ar gyfryngau digidol a thueddiadau marchnata ar gyfer 2018. Yn yr olaf o dair erthygl, mae Andrew Collins, ein Swyddog Partneriaeth a Chyfathrebu, yn edrych ar y tyfiant ym mhoblogrwydd cynorthwywyr digidol a chatbots.

Efallai nad yw’r term cynorthwywyr digidol yn gyfarwydd i chi. Gall swnio fel rhywbeth o ryw ffilm sci-fi neu rywbeth o’r dyfodol pell. Pobl yn siarad gyda robotiaid, yn cael ymatebion defnyddiol ac yn cyflawni tasgau syml. Croeso i’r dyfodol!

Wastad yn gwrando

Cerflun yn gwrando ar gyfer erthygl cynorthwywyr digidolEfallai byddech chi’n fwy cyfarwydd gyda chynorthwywr digidol gyda’r enw brand fel OK Google, Alexa a Siri. Mae cynorthwywyr digidol fel Siri gan Apple ac ‘OK Google’ gan Google wedi bod ar ffonau symudol ers sbel. Mae’r rhaglenni AI (deallusrwydd artiffisial) yma yn gwrando ar y defnyddiwr ac yn defnyddio’r rhyngrwyd i ddarganfod ymateb priodol. Er esiampl, gofynnwch i Siri “Sawl beic sydd yn Beijing?” neu gofynnwch i Google “Ble mae’r Tesco agosaf?” ac mae’n debyg y cewch chi ateb defnyddiol. Mae’r maes wedi symud ymlaen bellach a gallech chi wneud popeth o logi Uber i newid y tymheredd yn eich cartref.

Yn 2017 cafwyd math newydd o gynorthwyydd, un nad oedd yn bodoli ar eich ffôn, ond un oedd â lle arbennig yn eich cegin, ystafell fyw neu ystafell wely. Amazon oedd y cyntaf i ddod i’r farchnad gyda dyfeisiau Echo wedi’u pweru gan Alexa. Y peth gorau amdano? Gallech chi ofyn i’ch helpwr plastig bechan i chwarae eich hoff gerddoriaeth, neu ddarllen cyfarwyddiadau coginio tra bydd eich dwylo’n brysur yn torri ac yn cymysgu.

Ymuno’r brif ffrwd

Tan yn ddiweddar, dim ond canran eithaf bach o ddefnyddwyr oedd yna, gelwir y rhain yn ‘fabwysiadwyr cynnar’ fel arfer. Ond mae hyn yn newid eleni gan fod Apple wedi ymuno yn y farchnad dyfeisiau ‘cartref’.

Gwyddom o dueddiadau technoleg newydd blaenorol bod defnydd o rywbeth yn cynyddu pan fydd Apple yn lansio cynnyrch newydd. Mae’n newid o ddefnydd lleiafrifol i ddefnydd prif ffrwd. Gwelir hyn gyda’r watsys clyfar. Lansiwyd oriawr Samsung a Google yn ôl yn 2014. Y flwyddyn honno prynodd 5 miliwn o bobl ‘dechnoleg gwisgadwy’. Y flwyddyn ganlynol lansiodd Apple eu horiawr hwy, ac erbyn diwedd 2016, roedd 25 miliwn o watsys clyfar wedi cael eu prynu! Er mai dim ond 5 miliwn o’r 25 miliwn prynwyd oedd yn cyfrifo at werthiant Apple, nhw sicrhaodd fod y dechnoleg yn mynd yn prif ffrwd. Yn sydyn reit, roedd yn ‘cŵl’ bod yn berchen ar un. Disgwylir i’r un peth fod yn wir eleni gyda lansiad Homepod Apple.

Pam bod hyn yn berthnasol i chi?

Felly beth sydd gan hyn i gyd i’w wneud gyda chi a’ch busnes? Wel, mae technoleg newydd wastad yn faes chwarae i ddefnyddwyr a brandiau. Ydych chi’n cofio’ch ffôn clyfar cyntaf? Yn cofio lawr lwytho 5 app newydd bob dydd? Roedd yno app i bopeth. Wedi lawr lwytho iBeer, yr app sydd yn edrych fel eich bod chi’n mwynhau peint? Neu FatBooth, yr app camera sydd yn dangos chi’n edrych yn drymach? Ni lwyddodd yr un ohonynt ddal ei dir, ond newyddbeth oedd hyn mewn cyfnod pan roedd pobl yn parhau i chwarae gyda’u ffonau. Mae’n anodd iawn dychmygu lawr lwytho’r rhain yn awr, ond yn y cyfnod cafodd FatBooth ei lawr lwytho dros 10,000,000 o weithiau, ac iBeer dros 50,000,000 gwaith.

Mae Cynorthwywyr Cartref Digidol ar fin profi’r un peth fel newyddbeth, gyda phobl yn chwarae gyda dyfeisiau newydd, cyn setlo ar ychydig o ddefnydd pob dydd.

Mae ymchwil Google ar hyn wedi darganfod bod 72% o’r bobl sydd yn berchen ar ddyfais gartref eisoes yn ei ddefnyddio fel rhan o’u trefn ddyddiol. Mae’r bobl yma yn agored i dderbyn gwybodaeth sydd yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i’w bywydau.

Yn ddiweddar mae Alexa gan Amazon wedi ychwanegu’r gallu i ddarllen eich porth Twitter i chi, yn caniatáu i chi aros ar gyfryngau cymdeithasol wrth olchi’r llestri.

Dyma’r amser i ddechrau meddwl sut i gymryd mantais o’r tueddiad newydd yma. Byddwch yn greadigol, yn ddychmygus a meddwl pa fath o wybodaeth neu hwyl gallech chi ei rannu gyda defnyddwyr eich gwasanaeth.


Mae’r erthygl yma yn rhan o gyfres o erthyglau yn edrych ar dueddiadau cyfryngau a marchnata digidol ar gyfer 2018. Rydym eisioes wedi edrych ar Ddirywiad Cyrhaeddiad Organig Facebook a Chynnydd Fideo a Fideo Byw.

Os ydych chi wedi mwynhau’r erthygl hon ac eisiau gwybod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud yma yn ProMo-Cymru, edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru