Taith Tywys Fideo: Adeilad Newydd

by Tania Russell-Owen | 21st Rhag 2017

Rydym wedi sôn yn y gorffennol am ein hadleoliad i adeilad newydd ym Mae Caerdydd ac rydym wedi penderfynu rhannu ein gofod gyda chi wrth greu fideo. Gadewch i’n tîm roi taith o amgylch ein swyddfeydd a’n gofod creadigol i chi.

Cadwch lygaid allan am fwy o’r fideos yma yn y flwyddyn newydd yn dangos y gwasanaethau sydd gennym i’w gynnig yma yn ProMo-Cymru, cyflwyno ein staff a’ch caniatáu i ddysgu mwy amdanom.

Gofod Creadigol Adeilad Newydd

Mae’r adeilad newydd i’w ddarganfod yn 17 Stryd Gorllewin Bute yng nghalon Bae Caerdydd. Os hoffech logi un o’n hystafelloedd cyfarfod, sydd yn cynnwys Wi-Fi a mynediad i’n cyfleusterau cegin yna cysylltwch â swyddfeydd ProMo-Cymru ar 02920 2046 2222 neu e-bostiwch info@promo.cymru.

Ystafell cyfarfod 1 Adeilad Newydd

Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd yn cael ei gynnig gan ProMo-Cymru gallech chi ddarganfod manylion yn ein llyfryn Model TYC. ‘Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs’ felly cysylltwch. Rydym yn edrych ymlaen at weithio ar lawer o brosiectau cyffrous yn 2018.

Ystafell llinell gymorth Adeilad Newydd

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan bawb yma yn ProMo-Cymru.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru