Helpu Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái â’i Newydd Wedd

by Tania Russell-Owen | 10th Awst 2017

Pobl ifanc a'u gwaith celf ar gyfer erthygl Canolfan Ieuenctid Trelái

Ychydig o gymysgedd o syniadau pobl ifanc, paent lliwgar ac ychydig o gefnogaeth gan ProMo-Cymru.

Ychwanegwch gynfas wag canolfan ieuenctid yng Nghaerdydd. A beth sydd gennych chi? Rhywbeth eithaf deniadol…

Mae Auguste, ein gwirfoddolwr EVS (Gwasanaeth Gwirfoddol Ewrop), yn esbonio’r help rhoddodd ProMo-Cymru i Ganolfan Ieuenctid Gogledd Trelái er mwyn iddynt gyrraedd eu nod….

Bwriad y prosiect oedd addurno Canolfan Ieuenctid Gogledd Trelái yn dilyn ei ailwampiad diweddar, yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc sydd yn defnyddio’r ganolfan.

Roedd Canolfan Hamdden Gogledd Trelái yn chwilio am rywun i helpu’r bobl ifanc i gynhyrchu, datblygu a gweithredu syniadau ar gyfer addurno’r ganolfan ieuenctid. Ac roedd ProMo-Cymru yn barod i helpu.

Gyda chymorth anhygoel gan weithwyr ieuenctid a rheolwr y ganolfan ieuenctid, Steve McCambridge, roedd pobl ifanc yn cyfarfod ar ddydd Iau i wireddu eu syniadau. Ac roeddent yn fwy nac parod i gael paent ar eu dwylo! Roedd yn wych bod yn dyst i frwdfrydedd pobl ifanc am yr olwg orffenedig.

Dros gyfnod 5 gweithdy buom yn creu syniadau gyda’n gilydd, galwyd y rhain yn waliau “triongl”, “bwrdd sialc” a “swigod”. Addurnom y meinciau i gyd-fynd â’r waliau hefyd. Roedd y canlyniad yn adfywiol!


Yma yn ProMo-Cymru, rydym yn credu mewn cydweithredu, cyfathrebu ac ymrwymo. Sut gallem ni helpu chi i wireddu’ch amcanion?

Cysylltu gyda’ch grwpiau cymdeithasol

– Datblygiad Cymunedol a Diwylliannol

– Cyd-gynhyrchu a gweithio’n gydweithredol

Os hoffech siarad gyda rhywun, cysylltwch â ni ar:

029 2046 2222 neu info@promo.cymru