Ffarwel ac Au Revoir i’n Gwirfoddolwr EVS Manon

by Tania Russell-Owen | 31st Awst 2018

Ar ddiwedd y mis Gorffennaf roedd rhaid ffarwelio a dweud ‘au revoir’ i’n gwirfoddolwr EVS Manon De Lalande yn dilyn 11 mis yn gweithio yma yn ProMo-Cymru. Cawsom sgwrs â Manon cyn iddi adael i holi am yr holl bethau bu’n gwneud tra yma yng Nghymru a beth sydd i ddod.

Mae Manon, 23, yn dod o Lydaw yng Ngogledd-orllewin Ffrainc. Cyn ymuno gyda’r tîm ProMo-Cymru yng Nghaerdydd trwy’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Ewropeaidd, cwblhaodd radd Cyfathrebu yn ôl gartref.

Manon De Lelande Gwirfoddolwr Ewropeaidd EVS

Pam dewis Cymru?

Dewisais Gymru i gael gwella fy Saesneg, felly wrth wneud ceisiadau am brosiectau EVS dim ond yn y DU ac Iwerddon chwiliais. Roedd ProMo-Cymru yn gweddu’n dda gyda fy astudiaethau ac yn gyfle gwych i mi ymarfer a dysgu am gyfathrebu.

Beth fues ti’n ei wneud yn ProMo-Cymru?

Roedd yn gymysgedd mawr o bethau a chefais gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau: ymgyrchoedd cyfathrebu; digwyddiadau; creu prosiectau amlgyfrwng; cynhyrchu a golygu fideos; hyrwyddo ayb.

Newidiodd a gwellodd fy sgiliau. Dysgais cymaint dros yr 11 mis. Rwyf wedi mwynhau cael cyfarfod â phobl newydd a threulio amser gyda’r ffrindiau newydd yma. Roedd rhannu ein diwylliannau gwahanol yn anhygoel.

Beth oedd yr her fwyaf?

Siarad Saesneg wrth gwrs! Roedd yn anodd iawn cael hyd i’r geiriau roeddwn ei hangen i greu’r frawddeg oedd yn fy meddwl. Roeddwn yn swil i siarad mewn iaith wahanol ac wedi mynd mewn i’n nghragen braidd. Roedd yn cymryd amser i fagu hyder ond mae hyn yn rhan o’r profiad. Gallaf bellach ddweud fy mod wedi cyrraedd y sialens yma’n llwyddiannus.

Ddysgais di lawer tra yma?

Dysgais sut i addasu i sefyllfaoedd newydd, gyda phobl newydd, yn darganfod datrysiadau i unrhyw broblemau ar ben fy hun, a bod yn fwy annibynnol ac yn gryfach na ddychmygais. Diolch i’m ffrindiau tŷ, cefais deithio eithaf lot, rhywbeth annisgwyl, ac mae hyn wedi rhoi chwant teithio i mi.

Yn broffesiynol rwyf wedi cael sawl profiad newydd, wedi dysgu am gyfreithiau newydd ac yn gallu ymarfer mwy ar y cyfrifiadur ac yn y maes. Byddaf yn falch o gael rhoi’r pethau yma ar fy CV.

Beth yw dy farn di am Gymru?

Rwyf yn ei garu. Roedd byw yng Nghymru yn neis iawn a byddaf yn gwneud hyn eto os caf y cyfle. Mae Caerdydd yn ddinas braf, un bach ond gyda llawer i’w wneud yma. Mae pobl yn garedig a chyfeillgar iawn, yn gwneud i ti deimlo’n groeso ac wedi dy dderbyn yn sydyn iawn. Mae’n wlad hyfryd, gyda thirwedd odidog ac rwyf yn falch iawn o gael darganfod y lle diolch i’m mhrofiad EVS. Byddaf yn colli caredigrwydd pobl Cymru ar ôl dychwelyd i Ffrainc.

Beth wyt ti’n feddwl o ProMo-Cymru a dy gyd-weithwyr?

Rwy’n meddwl bod ProMo-Cymru yn sefydliad da, gyda thîm anhygoel o staff. Teimlwn yn rhan o’r tîm ac mae pawb yn ceisio helpu ei gilydd. Teimlwn fod pawb yn gefnogol ac yn ofalgar iawn.

Wyt ti’n falch dy fod di wedi cymryd rhan yn y cynllun EVS?

Nid wyf yn difaru o gwbl; dyma flwyddyn gorau fy mywyd hyd yn hyn. Os bydda’n rhaid i mi wneud hyn eto, ni fyddwn yn newid dim. Roedd wir yn brofiad anhygoel, un cyfoethog iawn byddaf yn cofio am byth.

Yn fis Medi mae Manon yn cychwyn ei Gradd Meistr mewn Cyfathrebu Gwleidyddol ym Mharis. Dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol a gobeithio bydd ein llwybrau yn cyfarfod unwaith eto yn y dyfodol.


Bydd ein gwirfoddolwr EVS newydd Daniele Mele o’r Eidal yn cychwyn cyn hir. Edrychwn ymlaen at ei groesawu i ProMo-Cymru a gobeithiwn bydd ei amser yma’r un mor hapus â phositif ag yr oedd cyfnod Manon