Newidiadau

Mae ProMo-Cymru yn cadw’r hawl, unrhyw bryd a heb rybudd ymlaen llaw, i dynnu neu ddirwyn i ben cyflenwi unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a gynhwysir ar y wefan hon. Pe bai unrhyw symud o’r fath yn digwydd yna ni fydd ProMo-Cymru yn atebol i chi mewn unrhyw ffordd o gwbl.

Cynnwys

Mae’r cynnyrch a’r wybodaeth gwasanaeth ar y wefan ar gyfer pwrpas gwybodaeth yn unig. Nid yw’r wybodaeth na’r disgrifiad yn esboniad llawn o’r holl dermau, amodau a’r gwaharddiadau sy’n gymwys. Os oes unrhyw amheuaeth am ddilysrwydd gwybodaeth darperir ar y wefan hon, gall fod yn syniad da i chwilio am eglurhad wrth gysylltu â ni.

Mae manylion y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael ei bostio ar-lein yn gallu newid heb rybudd. Mae’r holl gynnyrch a gwybodaeth yn amodol ar argaeledd ac nid all ProMo-Cymru roi gwarant oherwydd hyn.

Force Majeure

Ni fydd ProMo-Cymru yn gyfrifol am dorri unrhyw rai o amodau a thelerau’r safle, mewn perthynas â methu darparu, neu oedi wrth ddarparu’r gwasanaethau ar y safle o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.

Awdurdodaeth a’r Gyfraith

Llywir yr amodau a’r telerau hyn gan ac fe’u dehonglir yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau sy’n deillio o hyn, oni bai y cytunir yn benodol fel arall, yn ddarostyngedig i awdurdodaeth gyfyngedig llysoedd Cymru a Lloegr

Nodau Masnach a Logos

Mae’r deunydd hawlfraint a gynhwysir ar y wefan hon ac unrhyw nodau masnach a brandiau a gynhwysir yn y deunydd hwnnw yn perthyn i ProMo-Cymru neu ei drwyddedwyr. Gellir lawrlwytho dogfennau a chopïo cynnwys o’r wefan cyhyd ac nad yw’r deunydd yn cael ei ddefnyddio i ddibenion masnachol. Dylid credydu unrhyw ddeunydd fel bod yn berchen i ProMo-Cymru a’i gysylltu yn ôl i’r wefan.

Cwcis

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach sy’n cael eu creu gan wefannau i nodi defnyddwyr a chofnodi pa ardal o’r wefan yr ymwelwyd â nhw ac am ba mor hir er mwyn cofnodi llifiadau traffig a gwneud ein gwefan yn haws i chi ei ddefnyddio. Os ydych chi’n dewis hynny, gallech osod eich porwr gwe i wrthod cwcis. Ond gall hyn eich atal rhag defnyddio ein gwasanaeth. Mae ProMo-Cymru yn cadw’r hawl i newid yr amodau a’r telerau hyn unrhyw bryd drwy bostio newidiadau ar y wefan. Dy gyfrifoldeb di yw adolygu amodau a thelerau’r wefan yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r amodau a’r telerau diweddaraf.

Dirwyn i Ben

Rydym yn cadw’r hawl i gyhoeddi rhybudd, atal neu ddirwyn eich hawliau i ddefnyddio’r wefan i ben os ydych chi’n:

  • Torri amodau a thelerau’r safle
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau twyllodrus
  • Amharu ar hawliau trydydd parti neu ddefnyddiwr arall

Penawdau

Mae’r penawdau yn yr amodau a’r telerau hyn er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar eu dehongli. Os canfyddir bod unrhyw rai o ddarpariaethau’r amodau a thelerau hyn yn annilys neu yn rhai na ellir eu gorfodi yn gyfan gwbl neu yn rhannol ni fydd dilysrwydd darpariaethau eraill yr amodau a’r telerau hyn a gweddill y ddarpariaeth dan sylw yn cael eu heffeithio trwy hyn. Nid yw staff ProMo-Cymru wedi eu hawdurdodi i amrywio’r amodau a’r telerau hyn ond gellir eu hamrywio gan ProMo-Cymru o bryd i’w gilydd.