Enillwyr Cyfathrebiad Marchnata Gorau

by Tania Russell-Owen | 22nd Meh 2018

Mae ProMo-Cymru yn falch iawn o dderbyn Gwobr Cyfathrebiad Marchnata Gorau am ymgyrch datblygwyd ar gyfer y llinell gymorth Meic.

Roedd Pilipala yn fideo wedi’i greu ar ddechrau’r flwyddyn i ymgyrch perthnasau iach ar gyfer y llinell gymorth Meic. Meic ydy’r Llinell Gymorth Gwybodaeth, Cyngor ac Eiriolaeth Genedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru. Yn ogystal â’r erthyglau rheolaidd ar wefan Meic.cymru rydym yn cynnal ymgyrchoedd arbennig bob chwarter. Perthnasau oedd ymgyrch mis Chwefror, i gyd-fynd â Dydd San Ffolant, a Pili-pala oedd prif ffocws yr ymgyrch.

Ysgrifennodd Sarah McCreadie, artist gair llafar 25 oed o Gaerdydd, gerdd arbennig ar y pwnc perthnasau a recordiwyd hi’n perfformio’r darn. Cyfieithwyd y gerdd, recordiwyd y llais Cymraeg gan Mari Luz Gil-Cervantes, a chynhyrchwyd fideo gan ein tîm creadigol. Roedd yr ymgyrch yn cael ei chynnal ar y wefan Meic, ar ei sianel YouTube, holl sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar lwyfan Hwb ar gyfer ysgolion.

Gwobrau Digidol yng Ngwesty'r Marriott Caerdydd

Y Gwobrau

Cynhaliwyd Gwobrau Digidol Wales Online yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd ar 8fed Mehefin. Roedd llawer o wynebau cyfarwydd yno, gyda phobl allweddol sy’n gyfrifol am osod Cymru ar y map fel lle ar gyfer rhagoriaeth ac arloesiad digidol.

Mynychodd pedwar o dîm ProMo-Cymru y gwobrau: Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr; Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu; Dayana Del Puerto, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Amlgyfryngau; ac Augusté Poškaité, Dylunydd Graffig.

Tîm ProMo yng Ngwobrau Digidol 2018

Ch-Dd: Augusté Poškaité, Marco Gil-Cervantes, Arielle Tye a Dayana Del Puerto o ProMo-Cymru

“Roedd y dalent a’r profiad yn yr ystafell yn eithriadol, cymysgedd o fusnesau digidol sydd fegis cychwyn a rhai ffyniannus sydd wedi’u sefydlu eisoes,” eglurai Arielle.

“Fel menter gymdeithasol roeddem yn falch iawn o fod yno. Mae’r ymgyrch yma yn esiampl dda o’n gwaith, cyd-gynhyrchu cynnwys gyda phobl ifanc sydd yn helpu pobl ifanc eraill. Mae hwn yn fethodoleg ble mae pawb yn buddio o’r broses.”

Tîm ProMo-Cymru yn y Gwobrau Digidol

Ychwanegodd ein Prif Weithredwr Marco, pa mor bwysig oedd gweithio gyda phobl ifanc ar yr ymgyrch yma.

“Am dros 20 mlynedd rydym wedi canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu datrysiadau cyfathrebu digidol llwyddiannus,” eglurai.

“Ni fyddai wedi bod yn bosib ennill y wobr hon heb yr hynod dalentog ac ysbrydoledig Sarah McCreadie. Roeddem yn gallu rhannu’r neges arbennig yma yn y Gymraeg hefyd, a rhown ddiolch i Mari Luz Gil-Cervantes a Tania Russell-Owen am hyn.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru a Radio Platfform am eu cymorth i gyrraedd y pwynt yma lle cawn afael yn y wobr hon gyda balchder.”

Gwobr Cyfathrebiad Marchnata Digidol Gorau

Y gair olaf

Mae Sarah eisoes wedi rhannu’r ysbrydoliaeth am ei cherdd mewn erthygl flaenorol. Yn anffodus, nid oedd yn gallu mynychu’r gwobrau ei hun, ond roedd yn cadw llygaid craff ar Twitter. Ffordd berffaith i gloi ydy rhoi’r gair olaf i Sarah wrth rannu’r hyn bu’n trydar ar y noson ar ei chyfrif @Girl_Like_Sarah:

“Rydym wedi ennill gwobr am y gerdd Pili-pala ysgrifennais! Mae hyn mor cŵl! Falch iawn o fod wedi gweithio ar yr ymgyrch yma i bobl ifanc yng Nghymru gyda Meic a ProMo-Cymru.”


Yn dilyn ymgyrch perthnasoedd Meic, yr ymgyrch nesaf oedd un iechyd meddwl cynhaliwyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl fis Mai. Chwiliwch am yr holl erthyglau yma ar Meic.

Iechyd rhywiol fydd yr ymgyrch Meic nesaf, yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Iechyd Rhywiol fis Medi. Cadwch olwg ar ein deunyddiau fydd yn cael eu rhannu yn ystod wythnos 24ain Medi.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru