2017: Blwyddyn Gyffrous Yn Yr EVi

by Tania Russell-Owen | 8th Ion 2018

Roedd 2017 yn flwyddyn prysur iawn yn yr EVi, canolfan cymunedol a diwylliannol yng nghalon Glyn Ebwy wedi’i adfywio a’i ddatblygu gan ProMo-Cymru. Mae Chris Phillips, Swyddog Digwyddiadau’r EVi, yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol a’r amrywiaeth cyffrous o gerddoriaeth a theatr.

Mae Ionawr fel arfer yn fis araf iawn yn y diwydiant digwyddiadau oherwydd y tywydd anrhagweladwy, yn enwedig yma ym mynyddoedd Glyn Ebwy. Mae’r ffaith bod y mwyafrif o gwsmeriaid yn dlawd ar ôl gormodedd y Nadolig yn cael effaith hefyd. Pan dderbyniwyd cais i logi’r brif neuadd am fis Ionawr cyfan, roeddem yn hapus iawn i dderbyn.

PSB yn yr EVi

Llun o rhaglen ddogfen The Making of ‘Every Valley’

Stiwdio’n ymddangos

Cyrhaeddodd Public Service Broadcasting (PSB) a’i fandwagen ar 2 Ionawr. Am y pedair wythnos nesaf, trawsffurfiwyd y neuadd i stiwdio fyrfyfyr.

Roedd amrywiaeth o gerddorion gwadd ac offerynnau od a hyfryd yn cyrraedd yn ddyddiol, bod hynny’n James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers neu lockenspiel. Roedd cadw popeth yn gyfrinach yn bwysig, ond yn anodd gyda llygaid craff ymwelwyr yn ysu i weld beth oedd yn digwydd y tu ôl i’r drysau.

Llun o rhaglen ddogfen The Making of ‘Every Valley’

Daeth y gwaith i ben gychwyn fis Chwefror a ninnau’n berchen ar y neuadd unwaith eto. Roedd yn edrych yn iasol o wag ar ôl i’r holl offer electroneg a gwrthsain fynd. Pan ryddhawyd yr albwm fis Gorffennaf 2017 roedd yn llwyddiannus iawn yn y siartiau, yn gwerthu mwy nag Jay-Z yn ei ddyddiau cyntaf. Daeth i setlo o’r diwedd yn rhif pedwar yn siartiau’r DU. Cychwyn nodedig iawn i’r flwyddyn, gyda mwy i ddod gan fechgyn PSB gyda dwy sioe wedi’i werthu allan… ond mwy am hynny eto.

Theatr Ryngweithiol

Roedd 2017 yn flwyddyn amrywiol yn bendant, a gyda’r neuadd wedi’i ddychwelyd, sioe theatr ryngweithiol gan Be Aware Productions oedd y digwyddiad cyntaf. Ariannwyd y sioe gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Wedi’i ysgrifennu gan y dramodydd Twrcaidd Meltem Arikan, ei gyfarwyddo gan Memet Ali Alahora, ac yn serennu Maddie Jones, Pinar Ogun, Francesca Dimech ac Emma Daman Thomas. Roedd y sioe yn cael ei gyflwyno mewn ffurf gig. Adroddodd aelodau’r band am brofiadau trais rhywiol pobl go iawn ar ffurf caneuon a hiwmor tywyll iawn. Roedd y sioe yn un llym iawn, yn gwneud i chi feddwl, ac yn cynnwys sesiwn holi ar y diwedd.

Teyrnged lwyddiannus

Gyda’r Gwanwyn daeth perfformiad teyrnged Bon Giovi, y sioe lawn cyntaf gyda 300 o docynnau wedi’u gwerthu. Roedd pobl mor awyddus i ddod fel eu bod yn cynnig dwbl y pris i’r rhai oedd â thocynnau ar Facebook. Bu’r noson yn gymaint o lwyddiant fel bod y band teyrnged Bon Jovi yn dychwelyd eto yn fis Rhagfyr. Roedd y gig honno hefyd wedi’i werthu allan fisoedd o flaen llaw.

Efallai nad yw bandiau teyrnged at flas pawb, ac efallai nad yw’n gelfyddyd i bawb, ond maent yn boblogaidd iawn. Gyda chydbwysedd iach o ‘r gwir a’r ffug gallem barhau i gynnig rhywbeth i bawb.

Codi arian i elusennau

Mae’r EVi yn croesawu digwyddiadau elusennol. Cawsom noson wych wrth i Faith Parry gyflwyno noson o gerddoriaeth acwstig, yn dathlu ei brwydr iechyd meddwl. Cafwyd aduniad o fand ei thad, Mattraffia, am y noson hefyd, i godi ymwybyddiaeth ac arian i Mind, yr elusen iechyd meddwl.

Parhaodd y digwyddiadau elusennol fis Ebrill gyda digwyddiad i godi arian ar gyfer y sinema leol. Roedd yr awdurdod lleol yn bygwth ei gau. Chwaraeodd bandiau lleol i dorf iach a llwydwyd i gadw’r sinema yn agored. Nid oes posib gwybod os cafodd y digwyddiad effaith ar y penderfyniad, ond mae pob gweithred fach yn gymorth.

UK Subs at the EVi

Nid roc a metel yw popeth

Rydym wedi derbyn ychydig o feirniadaeth yn y gorffennol bod yna ormod o roc a metel trwm yn yr EVi. Llwyddodd mis Ebrill chwalu llawer o’r dybiaeth yma. Cawsom noson o gerddoriaeth dawns graidd galed gyda haid o rêfwyr mewn siorts bychan bach a ffyn golau. Croesawyd y mawrion pync, UK Subs, yn perfformio set o ganeuon anghyffredin i ddathlu 40 mlynedd ar ben blaen gwrthryfel ieuenctid. Ia, gwrthryfel ifanc gyda Charlie Harper… sy’n 73 oed!

Caru’r haf

Gellir llogi’r EVi ar gyfer partïon a digwyddiadau personol. Yn fis Mai cynhaliwyd parti ymddeol y ficer lleol. Uchafbwynt personol i mi oedd priodas fy merch. Ychwanegwch noson arall wedi’i werthu allan, gyda band teyrnged Guns N’ Roses. Roedd diwedd y gwanwyn yn gymysgedd eclectig o ddigwyddiadau, yn darparu rhywbeth at flas y mwyafrif.

Cychwynnwyd tymor yr haf a’r priodasau fis Mehefin. Cawsom undeb stêmbync oedd yn orfoledd llwyr a seremoni llawafael paganaidd. Nid conffeti a les yw popeth! Hanner ffordd drwy’r flwyddyn dychwelwyd digwyddiad cerddorol mawr. Roedd yr Odin’s Rock Club yn cynnal eu gŵyl deuddydd blynyddol am y pumed gwaith gyda pherfformwyr yn dod o bob man ledled y wlad.

Dangos gwerthfawrogiad

Dychwelodd Public Service Broadcasting i gynnal dwy sioe wedi’i werthu allan i lansio Every Valley, yr albwm wedi’i greu â chariad yn neuadd yr EVi. Ers recordio Every Valley rwyf wedi bod mewn cysylltiad e-bost parhaol gyda chwmni rheoli PSB. Trafodwyd y posibilrwydd o’r band yn chwarae ychydig o sioeau i ddweud diolch i’r ardal am fod mor groesawus i’r ‘Llundeinwyr dosbarth canol” oedd wedi dod yma i ysgrifennu am eu diwydiant a’u hymdrechion.

Roedd yr albwm bellach yn barod a’r dyddiadau wedi’u gosod a’u cyhoeddi. Rhoddwyd 400 o docynnau cyffredin i’w gwerthu ar-lein, a’r rheiny wedi gwerthu allan mewn llai nag dau funud. Rhoddodd y band 50 o docynnau hanner pris i ni ei werthu ar gyfer pob noson. Roedd amod bod raid i brynwyr brofi eu bod yn byw o fewn 15 milltir o’r lleoliad. Parhaodd y tocynnau yma ychydig yn hirach, tuag awr a hanner. Roedd pobl yn disgwyl i’r swyddfa docynnau agor i gael gafael ar y tocynnau aur “unwaith-mewn-oes” yma

Cyfweliadau gyda PSB yn yr EVi

Cynhyrchiad enfawr

Mae’r mwyafrif o fandiau yn cyrraedd mewn fan, gan gynnwys y PSB. Yr unig wahaniaeth oedd bod ganddynt bedwar fan a thryc mawr yn llawn rigin, goleuadau ac offer. Roedd ein gwirfoddolwyr lleol a finnau yn barod i helpu’r criw i osod pethau. Adeiladwyd y ffrâm odidog i ddal y sgriniau enfawr a’r mynydd o oleuadau. Roedd y neuadd wedi’i drawsnewid unwaith eto. Roedd yn anodd iawn credu eich bod yn parhau i fod yng Nglyn Ebwy gyda maint enfawr y cynhyrchiad.

Heidiodd llu o gyfryngau atom o ledled Cymru ar fore’r sioe, yn ogystal â newyddiadurwyr o Ffrainc. Daeth Janice Long o Radio Wales, a chynhaliwyd cyfweliad manwl gyda J o’r band. Roedd y sioe am gael ei ffrydio fel cynhyrchiad 360degree. Gyda’r EVi yn fwrlwm o weithgareddau roedd yn wyrth i weld popeth yn dod at ei gilydd. Roedd yna ychydig o broblemau bychan, gyda’r generadur defnyddir i bweru’r sioe yn rhy fawr i fynd trwy’r drws. Felly roedd rhaid llogi craen gan nad oedd y gyrrwr yn fodlon ei adael ar y stryd. Codwyd y generadur dros y ffens a’i adfer wedi’r sioeau.

Cefnogwyr hapus

Roedd y ddwy sioe yn wych, gyda phobl leol a chlwb cefnogwyr PSB yn dal i sôn amdano chwe mis wedyn. Daeth stori hyfryd allan o hyn hefyd. Yn dilyn y sioe gyntaf, cawsom glywed bod bachgen wyth oed wedi eistedd yn ei byjamas yn y maes parcio yn gwrando. Roedd y sioe i rai dros 14 oed ond roedd y plentyn yn ffan fawr. Ar ôl i mi ddweud wrth J a’r rheolwyr amdano cytunwyd i adael y bachgen a’i rieni eistedd ar y balconi uwchben y bar i wylio’r sioe gyda gwesteion y band. Cafodd y plentyn gyfarfod ei arwyr ac roedd yn ffordd wych i orffen y sioeau. Ond nid dyna ddiwedd ein hanes gyda PSB, ond mwy am hynny eto.

Chris Phillips, Swyddog Digwyddiadau EVi Events Officer gyda James Dean Bradfield

Ffilmio fideo gyda Manic Street Preacher

Yn fis Gorffennaf cynhaliwyd tair priodas ac angladd a dychwelwyd i gerddoriaeth byw wrth i rocwyr Abertawe, Bufallo Symmer, rocio’r neuadd.

Dychwelodd PSB yn fis Awst, gyda James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers yn ymuno â nhw y tro hyn. Roeddent yma i saethu fideo ar gyfer y sengl ar yr albwm roeddent wedi bod yn cydweithio arno. Rhoddodd y band cit drymio Ludwig, gitâr Fender Stratocaster a hen amp bas teithio’r band, i gerddorion ifanc ddysgu chwarae. Maent yn grŵp o bobl wych ac roedd hwn yn gysylltiad cyd-fanteisiol gyda’r albwm wedi cyrraedd safle uchel iawn yn y siartiau. Gobeithio bydd mwy i ddod yn 2018… gwyliwch y gofod yma!

Blues yr Hydref

Ar ôl ychydig o fandiau teyrnged, dyweddiadau, angladdau a phartïon, daeth y gerddoriaeth yn ôl gyda’r arwyr lleol Henry’s Funeral Shoe yn yr Hydref. Dychwelodd eu roc blues ‘down n’ dirty’ i’r cymoedd.

Cafwyd mwy o ddigwyddiadau elusennol fis Medi, gyda dau o nosweithiau er budd Musicians Against Homelessness. Roedd niferoedd da yn y ddau a llwyddwyd i godi ymwybyddiaeth a chyllid yr elusen ifanc yma.

Dan Reed yn perfformio yn yr EVi

Gwirioni gyda’r EVi

Unwaith i rywun chwarae yn yr EVi maent yn debygol iawn o ddychwelyd eto, bod hynny oherwydd y gynulleidfa, y staff, neu far wedi’i stocio’n dda. Mae Mike Peters o The Alarm wedi chwarae yma ddwywaith. Mae’r mwyafrif o berfformwyr lleol wedi bod sawl gwaith. Yn fis Hydref roedd yr arwr roc Dan Reed yma am y trydydd gwaith. Roedd yn cyd-daro â pharti pen-blwydd un o staff bwcio’r Odin’s Rock Club. Cawsant barti mewn ystafell gefn ac roedd pob un wedi prynu tocyn i sioe Dan. Felly roedd Dan wedi chwarae i barti pen-blwydd a chynulleidfa gig llawn. Yn hir wedi i bawb adael roedd yn adlonni am oriau yn chwarae’n acwstig a diddori gyda hanesion teithio gyda’r Stones a mawrion eraill y diwydiant.

Talu gyda batri

Nesaf cafwyd amrywiaeth mewn cerddoriaeth a thâl mynediad wrth i Heavenly Records gyflwyno’r digwyddiad Make Noise i’r EVi. Yn hytrach nag talu ffi mynediad roedd cwsmeriaid yn rhoi hen eitem drydanol i’w ailgylchu fel taliad am gig gyda’r trwbadŵr indi od o Gaerdydd, Sweet Baboo. Roedd y taliadau yn cynnwys popeth o lond llaw o fatris i lif gadwyn (wel, torrwr gwrychoedd, ond dal i edrych yn filain!)

Orbs yn dangos mewn llun yn ystod ymchwiliad paranormal yn yr EVi

Noson arswydus

Roedd ymchwiliad paranormal gan Gymdeithas Paranormal Glyn Ebwy wedi gwneud i mi deimlo’n bryderus am fod yn yr adeilad fy hun am ychydig wythnosau wedyn. Roeddent wedi darganfod tipyn go lew o weithgareddau gyda pheli (orbs), lleisiau a synau heb esboniad. Dwi’n amheugar o’r holl beth, ond roedd yn gwneud i mi feddwl ddwywaith am y synau ganol nos yn yr hen adeilad yma.

Motown ac Indi

Soniais yn barod bod bandiau yn hoff o ddychwelyd i’r adeilad ac ym mis Tachwedd daeth Big Mac’s Wholly Soul Band yn ôl am y pumed gwaith i ddathlu pen-blwydd yn 25 oed. Roedd torf lawn yn dawnsio drwy’r nos i synau hyfryd Motown. Yn dilyn llwyddiant digwyddiadau PSB, ymddangosai fel bod yr EVi yn boblogaidd gyda bandiau ar daith a gofynnodd SWN yng Nghaerdydd os oedd gennym le i We Are Scientist am gig munud diwethaf fel rhan o daith sydyn o dair gig yn y DU. Cytunom yn hapus a chawsom noson wych gyda sêr y sîn annibynnol o Efrog Newydd.

The Church yn y Brain Freeze Festival

Rhewi’r ymennydd

Nid ellir cael gormod o bethau da ac roedd hynny’n amlwg pan ddaeth Charlie Harper a’r UK Subs yn ôl fis Tachwedd. Gig cynhesu oedd hwn am y drydedd Ŵyl Brain Freeze Pity My Brain. Mae’r digwyddiad yma yn cyflwyno goreuon cerddoriaeth roc lleol, cenedlaethol a rhyngwladol gyda pherfformwyr y gorffennol yn cynnwys Atomic Bitchwax a Crobot.

Ar y fwydlen eleni roedd y perfformwyr Jim Jones and the Righteous Mind, Church of the Cosmic Skull, Virginmarys ac amrywiaeth rhagorol o dalent leol. Ychwanegwch ffair recordiau a chwrw lleol o fragdy Tudor yn ogystal â pherfformwyr acwstig fel Brandy Row ac Aled Clifford ac mae gennych chi’r ŵyl deuddydd gwerth gorau am eich arian.

The Church oedd y band gyda’r mwyafrif o bobl ar y llwyfan (heblaw am fand naw darn Gruff Rhys ychydig flynyddoedd yn ôl) ac am olygfa, gyda phawb mewn gwyn (yn ogystal â chyfran reit dda o’r gynulleidfa). Roedd fel pregeth cwlt ond am sŵn nefol y daw ohonynt.

Dathliadau llon

Gyda thymor y Nadolig daeth noson parti mawr gydag ein Dean Richards yn perfformio’r cabaret, parti am ddim i’r plant lleol gyda bwffe ac ychydig o hud a lledrith, a sioe arall wedi’i werthu allan gan Bon Giovi.

I gau, wel am flwyddyn, o sêr mawr rhyngwladol yn teithio, bandiau lleol ar ddechrau eu siwrne, rêfs, dramâu i wneud i chi feddwl, seicig, dadlau ac amrywiaeth o ddigwyddiadau teuluol. Ychwanegwch albwm 5 uchaf wedi’i recordio yn yr EVi ac mae gennych chi flwyddyn amrywiol a boddhaol iawn. Pwy a ŵyr beth sydd i ddod yn 2018 ond bydd yn anodd iawn curo 2017!

Welwn ni chi yn y tu blaen!

Chris Phillips

Delwedd clawr: Sgrin lun o’r rhaglen ddogfen The Making of ‘Every Valley’